Skip to main content

Diwrnod Agored

 
 
Lleoliad
Adeilad y Cyngor, Pontypridd
Date(s)
Dydd Sadwrn 21 Hydref 2017
Disgrifiad
OPen Date Reg.

Amser: 10:00 – 16:00

 

Galwch heibio i ‘ddiwrnod agored’ y swyddfa gofrestru mewn perthynas â seremonïau.

Seremonïau Adnewyddu, Priodas, Ymrwymo, Dinasyddiaeth ac Enwi Babanod – mae modd i gyplau a rhieni alw heibio i’r swyddfa gofrestru i gwrdd â’n tîm seremonïau, y Maer ac Aelodau o’r Cyngor, a chael eu tywys o amgylch ein hystafelloedd seremoni, Siambr y Cyngor a Pharlwr y Maer.

Bydd pecynnau rhodd ar gael yn ogystal â gwybodaeth ac awgrymiadau ynglŷn â’n seremonïau. Bydd modd i gwsmeriaid brynu eitemau o’r siop rhoddion a chymryd rhan mewn Raffl rhad ac am ddim i ennill seremoni wedi’i thalu. Bydd lluniaeth ar gael a bydd enillydd y raffl yn cael ei gyhoeddi gan y Maer am 4pm.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sue Cunnick, Cofrestrydd Arolygol, Adeiladau’r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2DP. Ffôn: 01443 494024 Ebost: cofrestrydd@rctcbc.gov.uk

Wedi’i lleoli yn Adeilad y Cyngor, Pontypridd. Mynediad am ddim.