Skip to main content

Her Llwybr Taith Taf Tŷ Hafan

 
 
Lleoliad
LD3 7EW, Llwybr Taith Taf, Theatr Aberhonddu
Date(s)
Dydd Sul 3 Medi 2017
Disgrifiad

Amser: 8:30 - 18:00

Ydych chi'n barod am yr her?

Ymunwch â ni ar yr her fythgofiadwy yma fydd yn gyfle i chi a'ch ffrindiau feicio un o lwybrau beicio hwyaf a gorau Cymru!  
Ffurfiwch dîm o bedwar a byddwch yn rhan o antur fydd yn brofiad heriol a bythgofiadwy. Dewiswch un o ddwy her wych; llwybr 79 cilometr neu lwybr 41 cilometr.

Yr her gyflawn - 79 cilometr, Aberhonddu i Gaerdydd - yn dechrau tu allan i Theatr Aberhonddu am 8.30am 
Hanner yr her - 41 cilometr, Merthyr i Gaerdydd - dechrau tu allan i Ganolfan Hamdden Rhyd-y-car ym Merthyr Tudful am 11.00am

Cost gofrestru = £10 y pen - bydd y gost yma ond yn cynnwys cost cyfrannu at darged codi arian yr achlysur = £125 y pen (£500 y tîm) - bydd y gost yma yn mynd tuag at redeg yr elusen.

Pam dylech chi gymryd rhan yn Her Llwybr Taith Taf Tŷ Hafan? 
Roedd ffarwelio â'u mab yn dorcalonnus i Jen ac Andrew Evans o Gaerdydd. Ers marwolaeth Oscar, oedd yn ddwy a hanner oed, o ganlyniad i nam genetig anghyffredin, mae'r cwpl wedi bod yn codi arian i gadw atgof eu mab yn fyw. Un diwrnod cyn pen-blwydd Oscar yn ddwy oed, gwaethygodd ei nam yn gyflym a rhybuddiodd y doctoriaid y cwpl, yna daethon nhw ag ef i Dŷ Hafan. Ar ôl pythefnos dechreuodd iechyd Oscar wella'n raddol, i'r fath raddau fel y daeth y cwpl ag ef adre. Roedd ei iechyd dan reolaeth am chwe mis, wedyn, bu farw yn sydyn.