Skip to main content

Man Engine yn Rhondda Cynon Taf

 
 
Lleoliad
Parc Coffa Ynysangharad
Date(s)
Dydd Mercher 11 Ebrill 2018
Disgrifiad
ENGINE

Amser 12.00yp - 4.00yp

Man Engine Cymru – Achlysur AM DDIM ym Mhontypridd

Bydd y glöwr dur, 11.2 metr o daldra, yn dod i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd ar 11 Ebrill yn rhan o'i daith ar hyd a lled Cymru. Enw'r daith yw: “Man Engine Cymru: dathlu diwydiant”. Mae hwn yn achlysur AM DDIM. Bydd ffair bleser enfawr yno, ac fe fydd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn agor ei ddrysau ar gyfer tymor newydd ar yr un diwrnod. Fe fydd yn ddiwrnod i'r brenin i'r holl deulu yn ystod Gwyliau'r Pasg!

Nod taith 'The Man Engine Cymru: dathlu diwydiant' yw dathlu treftadaeth fwyngloddio De Cymru. Ar un adeg, roedd Pontypridd yn gartref i gwmni Brown Lenox & Co Ltd. Yno y câi glo Cwm Rhondda ei ddefnyddio i greu angorau a chadwyni ar gyfer llongau'r Morlys a llongau pleser, gan gynnwys The Queen Mary a'r QE2. I ddathlu hyn, bydd ‘The Man Engine’ yn derbyn rhodd sy'n cynrychioli'r cadwyni a gâi eu creu gan gwmni Brown Lenox & Co Ltd.

Mae pob tocyn ar gyfer achlysur Man Engine Cymru ym Mharc Coffa Ynysangharad wedi’i fachu!
Heb lwyddo i gael tocyn? Mae dal cyfle i chi ddod gan fod hyn a hyn o docynnau ar gael ar y diwrnod. Wedi llwyddo i gael tocyn drwy’r system ar-lein? Cofiwch fod rhaid i chi gyrraedd man yr achlysur ym Mharc Coffa Ynysangharad erbyn 1pm. Os cyrhaeddwch chi ar ôl hynny, mae’n bosibl fydd dim hawl gyda chi i fynd i’r achlysur. O 1pm, caiff aelodau o’r achlysur fynediad ar sail y cyntaf i’r felin!