Skip to main content

Picnic Y Tedis

 
 
Lleoliad
Pontypridd, Ynysangharad War Memorial Park
Date(s)
Dydd Gwener 17 Mehefin 2022
Cyswllt
 
Disgrifiad
Teddy-Bears-Picnic

Hwyl a sbri i blant 5 oed ac iau yn ogystal â gwybodaeth i rieni a chynhalwyr ynglyn â gwasanaethau cyn-ysgol yn Rhondda Cynon Taf.

Os ewch chi i'r parc heddiw....

...byddwch chi'n siŵr o gael diwrnod arbennig! Mae Picnic y Tedis yn dychwelyd i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd ddydd Gwener, 17 Mehefin rhwng 10am - 2pm. 

Bydd modd i drigolion ieuengaf Rhondda Cynon Taf, eu teuluoedd a’u cynhalwyr fwynhau diwrnod llawn hwyl ym mhrydferthwch y parc. Bydd gweithgareddau hwyl, gemau ac  adloniant hefyd ar gael. Mae mynediad i’r achlysur a’r holl adloniant am ddim. Bydd modd i chi brynu bwyd ar y safle neu mae croeso i chi ddod â bwyd eich hun.

Bydd ffair fach, castell neidio, celf a chrefft, gemau, paentio wynebau, modelwyr balŵns ac adloniant byw gan Charlie Bubbles a'i dreic gerddorol!

Mae Picnic y Tedis yn berffaith ar gyfer plant dan 5 oed, eu rhieni a’u cynhalwyr. Dewch i ddysgu rhagor am y cyfleoedd a’r gwasanaethau sydd ar gael i blant a theuluoedd RhCT, gan gynnwys sut mae Gwasanaeth y Llyfrgelloedd yn ysbrydoli darllenwyr y dyfodol, sut i fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant a gofal iechyd! (A llawer yn rhagor!)

Mae'r holl stondinau yn cynnig gwybodaeth sy’n berthnasol i deuluoedd a chynhalwyr sydd â phlant dan 5 oed. Bydd gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol er mwyn i chi gael blas ar y gwaith  maen nhw'n ei wneud.

Dyma'r carfanau fydd yna i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth:

Y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles:LDewch i fwynhau helfa sborion a chael gwybodaeth sy'n ymwneud â mynychu’r ysgol

Arlwyo: Hwyl a sbri wrth chwarae’r gêm bwyta'n iach a chyfle i ddysgu rhagor am brydau ysgol a sut rydyn ni'n ceisio ysbrydoli plant i fwyta'n iach.

Dechrau'n Deg: Bydd ein stondin ni’n cynnig cyfleoedd chwarae rôl, cornel ddarllen, blociau adeiladu a llawer yn rhagor. Mae'n berffaith ar gyfer plant 2 - 3 oed!

Y Garfan Chwarae:Dewch i gael hwyl a sbri gyda'r Garfan Chwarae!  Bydd nifer o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys paentio wynebau a chreu bathodynnau â gliter!

Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth: Dewch i ddysgu sut rydyn ni'n cefnogi ein teuluoedd. Bydd gweithgareddau llawn hwyl i'r plant yn ein pabell ni. Thema ein stondin ni eleni yw 'Shark in the Park'. Dewch i gymryd rhan yn yr hwyl drwy greu mygydau, barcudiaid ac ysbienddrychau. Bydd cyfle hefyd i chwarae gêm dal siarc, chwarae yn y tywod a llawer yn rhagor. Yn ogystal â hyn, cewch chi dynnu’ch llun gyda’r Siarc ac ymuno â ni ar y llwyfan ar gyfer amser stori a chân.

 Chwaraeon RhCT: Bydd modd i blant gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi, rhoi cynnig ar feiciau cydbwyso, pêl-rwyd, pêl-droed ac athletau. Bydd modd i chi ddysgu am y cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael yn eich ardal chi , megis clybiau, gweithgareddau a theithiau cerdded ar gyfer y teulu cyfan.

Mae Picnic y Tedis 2022 wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Os oes diddordeb gennych chi mewn noddi achlysur 'Be sy 'mlaen RhCT' yn 2022, cliciwch yma i ddysgu rhagor a chysylltu â ni: