Skip to main content

Cronfa Grant y Cyfamod

Yng Nghronfa'r Cyfamod, mae £10miliwn bob blwyddyn i gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau penodol.

Bob blwyddyn, rydyn ni'n pennu nifer o flaenoriaethau o ran dyfarnu grantiau.  Cliciwch ar y ddolen yma i weld y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn yma:  https://www.gov.uk/government/collections/covenant-fund

Mae 2 lwybr ar gyfer cyflwyno cais:

  • Grantiau bach ar gyfer ceisiadau hyd at £20,000; a
  • Grantiau mawr ar gyfer ceisiadau rhwng £20,001 a £500,000

Pwy sy'n cael gwneud cais?

Rhaid i'r cais ddod o du corff statudol, elusen gofrestredig neu uned y lluoedd arfog sydd â Rhif Adnabod Uned. Y sefydliad yma fydd yn atebol am y grant. Bydd gofyn am dystiolaeth o ymgysylltu go iawn a gweithio mewn partneriaeth – yn achos elusen neu gorff statudol sydd ddim ar gyfer y lluoedd arfog – gyda naill elusen y lluoedd arfog neu uned y lluoedd arfog.

Mae croeso i chi gyflwyno cais os ydych chi'n Gwmni Buddiannau Cymunedol.

Bydd gofyn i'r sefydliad sy'n arwain i fod yn rhan o gytundeb partneriaeth (mae rhaid cael sêl bendith y panel) â'i sefydliad(au) partner cyn bod modd i'r prosiect gychwyn.

Pwy sydd ddim yn cael gwneud cais?

Does dim hawl gan unigolion i gyflwyno cais, na bod yn sefydliad partner.

Chaiff sefydliadau anghorfforedig sydd ddim wedi'u cofrestru yn elusennau ddim gwneud cais. Os bydd y sefydliad wedi'i gyfansoddi'n iawn o dan ddogfen lywodraethu sy'n weithredol, ac mae e wedi bod yn gweithredu o dan y ddogfen lywodraethu honno ers o leiaf 3 blynedd, mae hawl iddo fod yn sefydliad partner.

Gan nad yw partneriaethau a rhai mathau o fentrau cymdeithasol yn elusennau cofrestredig neu Gwmnïau Buddiannau Cymunedol, fydd dim hawl gyda nhw i gyflwyno cais, ond bydd modd iddyn nhw weithio yn bartner gydag ymgeisydd cymwys sy'n arwain.

Rhagor o wybodaeth am y broses cyflwyno cais ar gyfer Cronfa Grantiau'r Cyfamod.

Da o beth fyddai cysylltu â Swyddog Arweiniol yr Awdurdod ar faterion y Lluoedd Arfog, i drafod unrhyw gais cyn ei gyflwyno. Mae modd cysylltu â'r Swyddog Arweiniol drwy e-bost – cyfamodcymunedol@rhondda-cynon-taf.gov.uk