Skip to main content

Addysg a Chyflogaeth

Gallwn ni'ch helpu chi i ddychwelyd i fyd addysg a chyflogaeth wedi i chi wasanaethu'r Lluoedd Arfog. Rydyn ni'n gweithio gyda sawl sefydliad partner er mwyn eich cyfeirio chi at bobl sy'n gallu helpu.

Y Lleng Brydeinig

Cefnogaeth anhygoel i chi ddychwelyd i fywyd yn ddinesydd, ail-hyfforddi, sicrhau swydd newydd a rhagor.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.britishlegion.org.uk

Gyrfa Cymru

Os hoffech chi ddychwelyd i'r gwaith, hyfforddiant neu addysg, dyma'r cam cyntaf! Gall y system gynnig cyngor gyrfaoedd, llwybrau i'ch swydd ddelfrydol a rhagor.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.gyrfacymru.com

Canolfan Byd Gwaith

Bydd eich canolfan byd gwaith lleol yn gallu dangos y ffordd i chi ar sut i gael hyfforddiant a chyngor er mwyn ennill cymwysterau priodol a chymryd cam yn agosach at eich swydd ddelfrydol.
Am ragor o wybodaeth ewch i  www.gov.uk/contact-jobcentre-plus

Cyfleoedd gyda'r Cyngor

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau gwaith. Mae hyn yn cynnwys cynllun i raddedigion i ddod o hyd i reolwyr y dyfodol a chynllun prentisiaeth newydd, yn ogystal â threfnu opsiynau profiad gwaith a lleoli. 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi Llwybr Cyflogaeth y Lluoedd Arfog ac yn cynnig profiad gwaith i'r rheiny sydd â diddordeb mewn gweithio i'r Cyngor a bod yn filwr wrth gefn neu'n filwr parhaol. Rydyn ni'n annog Cymuned y Lluoedd Arfog i gyflwyno ceisiadau gan ein bod ni'n cydnabod yr ystod eang o sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy y mae milwyr sydd wedi gadael y gwasanaeth a chyn-filwyr wedi'u hennill yn ystod eu gwasanaeth.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r adran Hyfforddiant a Datblygu

Addysg i Oedolion

Hybu addysg yn y gymuned ac i ennyn sgiliau a chymwysterau newydd, megis technoleg gwybodaeth, neu feithrin diddordebau.
Am ragor o wybodaeth ewch i'r adran Addysg Cyrsiau Addysg i Oedolioni Oedolion

Gwasanaeth Cymorth Addysg Lluoedd ei Mawrhydi newydd RhCT 

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Addysg Lluoedd ei Mawrhydi yn rhoi cymorth i blant sydd â rhiant yn y lluoedd arfog.  Mae'r gwasanaeth yn gweithio ar y cyd ag ysgolion ac mae'n rhoi cymorth uniongyrchol i deuluoedd y lluoedd arfog yn ysgolion cynradd ac uwchradd Rhondda Cynon Taf.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch –
Caroline Elder – Swyddog Cymorth Addysg Ysgolion Cynradd Lluoedd ei Mawrhydi caroline.elder@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 744298 neu e-bostio Jason Hurford – Swyddog Cymorth Addysg Ysgolion Uwchradd Lluoedd ei Mawrhydi jason.hurford@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 744298

Sefydliad E-cycle

Dechreuodd E-Cycle Limited fasnachu ym mis Medi 2013, ar ôl caffael asedau ac eiddo deallusol hen fusnes Remploy Ecycle. O ganlyniad i hyn, mae pobl sy'n agored i niwed yn dal i fwynhau manteision gweithio a chyfrannu at lwyddiant parhaus y cwmni. Mae gan 90% o'r unigolion mae E-Cycle yn eu penodi anabledd, ac mae'r sefydliad yn penodi nifer o gyn-filwyr ag anabledd.  
Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.ecyclegroup.co.uk

Poppy Factory

Mae elusen The Poppy Factory wedi dod yn elusen gyflogadwyedd arbenigol ar gyfer cyn-filwyr ag anabledd, gan eu helpu nhw i ddod o hyd i waith gyda chwmnïau sifiliaid ledled y DU.  Strategaeth The Poppy Factory yw dod yn ddarparwr cyflogadwyedd i gyn-filwyr sy'n sâl neu wedi'u hanafu sy'n chwilio am waith, ond hefyd i gyflogwyr y mae modd iddyn nhw gynnig swyddi fydd yn newid bywydau. Am ragor o wybodaeth, ewch i – http://www.poppyfactory.org

Cydnabod Dysgu trwy Brofiad Prifysgol De Cymru

Mae'r cynllun arloesol (wedi'i ariannu gan Gynllun Grant Cyfamod y Lluoedd Arfog) yn helpu cyn-filwyr sydd wedi gwasanaethu yn ystod y 10-15 mlynedd diwethaf i ennill credydau addysg uwch trwy nodi gwerth yr wybodaeth, sgiliau a phrofiad a gafodd eu cyflawni wrth wasanaethu neu ers gadael y lluoedd. Mae modd defnyddio'r credyd academaidd yma i astudio cwrs addysg uwch ym Mhrifysgol De Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.southwales.ac.uk/study/armed-forces/

Cynllun Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru

Amcan y cynllun yw darparu'r cymorth addysg gorau posibl i gefnogi plant trwy sicrhau bod gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yn deall y problemau mae plant milwyr yng Nghymru yn eu hwynebu. Cynllun Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru cyntaf: Cafodd canllaw i ysgolion a rhieni ei lunio yn 2015.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.sscecymru.co.uk/