Skip to main content

Materion Ariannol

Gall yr hinsawdd ariannol sydd ohoni fod yn fwy anodd fyth os ydych chi’n dioddef o broblemau iechyd meddwl neu broblemau iechyd neu os ydych chi’n paratoi at fyd gwaith neu hyfforddiant.

Hawliau Lles

Mae hi’n bwysig cofio bod Ymgynghorwyr Hawliau Lles, gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio ar ran y Lleng Brydeinig, ar gael i roi cymorth i chi. Maen nhw’n gofalu eich bod chi’n hawlio’r cymorth ariannol a’r budd-daliadau hynny mae hawl gyda chi iddyn nhw ac yn rhoi cymorth i chi reoli’ch arian yn ogystal.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r adran ar y wefan sy’n sôn am Newidiadau mewn Budd-daliadau neu ffoniwch: 01443 425003

Budd-daliadau Tai a Threth y Cyngor

Efallai bydd modd i chi gael cymorth ariannol tuag at gostau’ch cartref a thaliadau Treth y Cyngor.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r adran ar y wefan sy’n sôn am Fudd-daliadau neu ffoniwch: 01443 425002

Tlodi Tanwydd

Mae nifer o gynlluniau ar gael sy’n cynnig gwasanaethau insiwleiddio’ch cartref am ddim neu ar raddfa ddisgownt. Mae insiwleiddio’ch cartref yn gallu tolio ar yr ynni a ddefnyddir ac arbed arian sy’n cael ei wario ar filiau o ganlyniad. Mae Strategaeth Tlodi Tanwydd yn ei lle yn ogystal.
I gael rhagor o fanylion am wasanaethau insiwleiddio’ch cartref yn rhad ac am ddim ffoniwch 01443 425678 neu ffonio’r Wifren Gymorth Tlodi Tanwydd ar 0800 622 6110.

Gwasanaethau Cymorth

Efallai y byddwch chi’n gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim, grantiau gwisg ysgol neu lwfans gwisg ysgol.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch: 01443 425002

Cyfleusterau Hamdden

Mae aelodau o staff y Lluoedd Arfog yn gymwys i gael gostyngiad ar gardiau Hamdden a Mwy misol. Mae hyn yn caniatáu i bobl fanteisio ar weithgareddau cymdeithasol, iechyd a lles am bris fforddiadwy.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r adran ar y wefan sy’n sôn am Ganolfannau Hamdden a Phyllau Nofio neu ffoniwch: 01443 400563

Bathodynnau Glas

Mae hyn yn caniatáu i’r sawl sydd ag anableddau deithio’n fwy annibynnol a pharcio, gyda’r bathodyn glas ar ddangos, mewn mannau does dim hawl gan bobl eraill i barcio ynddyn nhw.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r adran ar y wefan sy’n sôn am Fathodynnau Glas neu ffoniwch: 01443 425003
E-bost: 
gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Gwasanaethau Cyngor i Ddefnyddwyr

Mae modd i’n gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr sydd wedi ennill nifer o wobrau roi cymorth ar faterion safonau masnach, a’i nod yw diogelu trigolion Rhondda Cynon Taf rhag masnachwyr ac unigolion sydd heb gydwybod.
Ffoniwch: 01443 425738 
E-bost: 
cyngoriddefnyddwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk