Bydd parth dim yfed Aberdâr yn cynnwys Canol y Dref, datblygiad yr Ynys gerllaw gan gynnwys ei gaeau chwarae, Gorsaf Reilffordd Aberdâr a maes parcio Pwll Glo'r Gadlys.
Mae parth Pontypridd yn cynnwys Parc Coffa Ynysangharad, Gorsaf Reilffordd Pontypridd, Gorsaf Fysiau Pontypridd a rhan o'r Graig isaf.
Bydd swyddogion awdurdodedig y Cyngor a swyddogion yr heddlu'n cynnal patrolau yn yr ardaloedd yma. Bydden nhw'n gofyn i unrhyw un sy'n cael ei ddal yn yfed alcohol i ildio'r alcohol neu gael gwared ohono. Os fyddan nhw ddim, byddan nhw'n cael dirwy o £100. Serch hynny, byddai'n well gan y Cyngor pe bai pobl yn cydymffurfio â'r rheolau newydd yn hytrach na chodi dirwy.

