Mae arferion ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar, diolch i fwyfwy o bobl yn cefnogi dyfodol gwyrdd.
Mae arferion ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar, diolch i fwyfwy o bobl yn cefnogi dyfodol gwyrdd.
Bum mlynedd yn ôl, dim ond 45% o'n holl wastraff a fyddai'n cael ei ailgylchu - ffigwr a gynyddodd i 64% erbyn 2016/17. Mae Llywodraeth Cymru eisiau i ni ailgylchu 70% erbyn 2024/25.
Felly, mae rhaid dewis – naill ai ailgylchu rhagor a bod yn gyfaill i'r amgylchedd, neu wynebu dirwyon sylweddol yn y dyfodol, a dyna rywbeth rydyn ni i gyd eisiau'i osgoi.
Mae'r Dewis yn Glir, Rhaid i bawb ailgylchu.
Gweld dyddiadau Sioeau teithiol yr ôl-gerbyd fydd yn cyrraedd stryd sy'n agos i chi cyn bo hir.
Bydd ein carfan gwastraff yn cynnig cyngor ac ateb cwestiynau, yn ogystal â sicrhau bod gyda chi ddigon o fagiau CLIR a bagiau gwastraff bwyd.
Mae modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref, gan gynnwys cewynnau, bwyd a gwastraff o'r ardd, trwy ein casgliadau wythnosol am ddim neu ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.
Dyma'r rheswm pam mae yna gyfyngiad ar nifer y bagiau du/biniau byddwn ni'n eu casglu bob pythefnos. Rydyn ni o'r farn y bydd y cyfyngiadau yn ddigon ar gyfer cartrefi sy'n ailgylchu'n gywir.
Os ydych chi'n ailgylchu cymaint ag y bo modd, mor aml ag y bo modd – fel y mae 3 allan o 4 person yn RhCT yn ei wneud yn barod – rydych chi'n annhebygol o weld effaith o ran y cyfyngiadau bagiau du/biniau.
Rydyn ni'n canolbwyntio ar yr unigolion sydd ddim yn ailgylchu digon neu sy'n mynnu peidio ag ailgylchu o gwbl.
Yn dilyn amcangyfrifon, mae modd ailgylchu tua 80% o wastraff y cartref, rydyn ni wedi gosod cyfyngiad ar nifer y bagiau du/biniau gwastraff cyffredinol byddwn ni'n eu casglu er mwyn sicrhau bod pobl yn ailgylchu cymaint ag y bo modd.
Ar 4 Mehefin 2018, daeth y rheolau newydd i rym sy'n golygu:
- Caiff cartrefi â bin ar olwynion roi'r bin allan i'w gasglu (rhaid i'r bin gau). Fyddwn ni ddim yn casglu bagiau du ychwanegol.
- Caiff cartrefi sy'n defnyddio bagiau du roi uchafswm o ddau fag du allan bob pythefnos.
- Fydd dim newid o ran gwastraff ailgylchu, cewynnau, bwyd a gwastraff o'r ardd* . Byddwn ni'n parhau i gasglu gwastraff ailgylchu bob wythnos.
- *Yn ystod y gaeaf pan fydd y galw yn isel, byddwn ni'n casglu gwastraff o'r ardd bob pythefnos rhwng 1 Tachwedd a 1 Mawrth.
- Byddwn ni’n nodi’r rheiny sy’n mynnu peidio ag ailgylchu yn y modd cywir a bydd swyddogion yn siarad â nhw i sicrhau bod gyda nhw'r wybodaeth ac offer (cadis, bagiau, ac ati) sydd eu hangen arnyn nhw i ailgylchu'n gywir. Os ydy'r unigolion yn gwrthod ailgylchu byth a hefyd, byddwn ni'n cyflwyno nodiadau rhybudd, rhoi cyfarwyddiadau ac, yn y pendraw, yn cymryd camau gorfodi gan gynnwys rhoi dirwy o £100.

Targed Ailgylchu
Bydd y newidiadau yma o gymorth inni fwrw'r targed ailgylchu 70% ac yn golygu bod modd cadw at drefniadau casglu presennol, sef bob pythefnos, yn hytrach nag ystyried symud i drefniant casglu 3 neu 4 wythnos.
Mae’n bosibl y bydd y rheiny sy'n mynnu peidio ag ailgylchu wynebu dirwy o £100. Dyma fydd y cam olaf ar ôl cynnal ymgyrchoedd cynyddu ymwybyddiaeth a hysbysiadau oddi wrth swyddogion gorfodi.
Bydd eithriadau i'r cyfyngiadau ar nifer y bagiau du/biniau fydd yn cael eu diddymu dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Dylai'r rheiny sydd ag amgylchiadau eithriadol, gan gynnwys pobl sydd angen cael gwared â lludw nad oes modd ei ailgylchu, gysylltu â'r Cyngor cyn gynted ag y bo modd trwy e-bostio ein carfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid.
Rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn RhCT
Lawrlwytho'r canllaw ' Popeth sydd angen i chi ei wybod
Lawrlwytho'r Cwestiynau cyffredin ynghylch y 'Rheolau Newydd'