Skip to main content

Gweithredu yn y Gymuned – Codi sbwriel

Trwy weithio gydag elusen Cadwch Gymru'n Daclus, a phob Awdurdod Lleol yng Nghymru, mae'r Cyngor yn rhan o fenter 'Caru Cymru'. Bwriad y fenter yw cael gwared ar sbwriel a gwastraff a fydd yn creu amgylchedd glân a diogel ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n planed.

Y weledigaeth yw i fenter 'Caru Cymru' gael ei chynnwys yn rhan o fywyd yng Nghymru, fel ei bod yn naturiol i bawb wneud y peth iawn, o fynd â sbwriel gartref gyda chi a chodi baw cŵn, i ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio.

Dyma'r hyn mae modd i chi ei wneud i helpu?.....

Gweithredu yn y Gymuned

Keep Wales TidyTrwy fenter Caru Cymru, mae modd i elusen Cadwch Gymeru'n Daclus roi cefnogaeth i gymunedau er mwyn cael gwared ar sbwriel a gwastraff mewn nifer o ffyrdd. Mae modd iddi ddarparu'r offer, y gefnogaeth a'r yswiriant sydd eu hangen ar wirfoddolwyr i dacluso'ch amgylchedd lleol yn ddiogel. Mae'r offer, gan gynnwys offer codi sbwriel, cylchynau, festiau llachar a bagiau, ar gael i’w benthyg am ddim. Mae hyn wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

              Neu

  • cysylltwch â Swyddog Cymunedol Cadwch Gymru'n Daclus Rhondda Cynon Taf, Maria Toogood, fydd yn gallu helpu.  

Mae modd cyflwyno unrhyw ymholiadau eraill ar dudalen ‘Rhoi Adroddiad’ ar wefan y Cyngor.

Diolch am barhau i Gadw RhCT yn Ddi-wastraff ac yn ardal y mae pobl yn falch o fyw, gweithio a chwarae ynddi.

Gwybodaeth ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r pwnc yma: