Skip to main content

Farn rhanddeiliaid ar y cynnig i gyfuno Ysgolion Cynradd Cefn a Chraig yr Hesg

Mae’r Cyngor yn dymuno gofyn am farn rhanddeiliaid ar y cynnig i gyfuno Ysgolion Cynradd Cefn a Chraig yr Hesg. Cyflawnir yr uno drwy gau’r ddwy ysgol gynradd bresennol ac agor ysgol gynradd gymunedol newydd, fwy yn eu lle.

Bydd adeilad newydd yr ysgol yn cael ei adeiladu ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig yr Hesg a’r tir gerllaw (hen safle Uned Cyfeirio Disgyblion Tŷ Gwyn). Cynigir y bydd y ddwy ysgol bresennol yn cau gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i’r ysgol newydd erbyn mis Medi 2026 fan hwyraf.

Gwneir y cynnig hwn yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion – 2018 (011/2018).

Mae'r Ddogfen Ymgynghori, y deunydd ategol a'r holiadur i'w gweld isod.

Mae croeso hefyd i chi gyflwyno eich barn, sylwadau ac unrhyw gwestiynau sydd gennych yn ysgrifenedig i’r:

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant

Ysgolion yr 21ain Ganrif

Tŷ Trevithick

Abercynon

Aberpennar  

CF45 4UQ