Cerdded a beicio Rhondda Cynon Taf – dweud eich dweud

Hoffai'r Cyngor geisio barn trigolion lleol am y teithiau cerdded a beicio y maen nhw naill ai'n eu gwneud ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf, neu yr hoffen nhw eu gwneud ond does dim modd iddyn nhw wneud hynny. Mae cerdded a beicio yn cynnig llawer o fuddion o ran iechyd a'r amgylchedd ac mae'r Cyngor, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, wedi cyflwyno offeryn ymgynghori ar-lein i drigolion ei ddefnyddio.