Skip to main content

Ysgol Gynradd Pont-y-clun

 

Bydd y prosiect yn darparu adeilad ysgol newydd gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf ar safle presennol Ysgol Gynradd Pont-y-clun

Ym mis Rhagfyr 2022, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei gyfraniad i'r prosiect yma, a gaiff ei ariannu drwy fuddsoddiad y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). MIM yw ffrwd cyllid refeniw Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Pontyclun-Primary-School

Yn rhan o ddatblygiad graddol y safle, bydd llety dros dro newydd yn cael ei osod ar y safle yn gynnar yn 2023 i alluogi'r prif waith adeiladu newydd i ddechrau. Bydd y prif waith adeiladu yn disodli adeilad presennol yr ysgol – gan gynnwys ystafelloedd dosbarth dros dro – gydag adeilad newydd deulawr a fydd yn anelu at fod yn Garbon Sero-Net wrth gael ei weithredu. Mae disgwyl i'r datblygiad, sy'n cael ei gynnal gan Morgan Sindall Construction, gael ei gyflawni yn fuan yn 2025, a bydd lle i 480 o ddisgyblion a lle i 60 o ddisgyblion yn y feithrinfa.

Bydd y datblygiad gorffenedig yn darparu amgylchedd dysgu bywiog, yn ogystal â chyfleusterau i'r gymuned eu defnyddio. Bydd yn cynnwys cyfleusterau newydd y tu allan, fel maes parcio, Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt a digonedd o fannau gwyrdd, i'r gwrthwyneb i dirwedd galed y safle presennol.

Rhoddodd ymgynghoriad a gafodd ei gynnal rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2021 gyfle i drigolion ddysgu rhagor am y cynllun a chyfle iddyn nhw gael dweud eu dweud. 

Derbyniodd y cynllun ganiatâd cynllunio llawn oddi wrth Bwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor ym mis Mawrth 2022.