Skip to main content

Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr

 
Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yng Nghwmdâr yn elwa o gynigion gwerth £4.706 miliwn i ehangu ei chyfleusterau presennol a sefydlu cyfleuster gofal plant ar y safle i fodloni'r galw yn lleol.

YGG Aberdar1Yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif yn flaenorol), mae cynllun i fuddsoddi £3.69 miliwn yn yr ysgol er mwyn darparu cyfleusterau modern ac ychwanegu 48 o leoedd cyfrwng Cymraeg, sy'n golygu bydd lle i 480 disgybl.

Cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr erbyn y flwyddyn academaidd newydd (Gorffennaf 2022)

Bydd hyn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad ar wahân o £1.016m, drwy Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, i sefydlu cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd gyda 30 o lefydd ar safle'r ysgol.

Bydd y cynllun i gyd yn cynnwys:

  • Estyniad â gwahanol lefelau yn 'adain' ddwyreiniol yr ysgol – bydd hyn yn helpu i greu pedair ystafell ddosbarth ychwanegol, tai bach, ardal dysgu anffurfiol ar y llawr gwaelod a chyfleuster gofal plant cwbl hygyrch ar y llawr gwaelod isaf.
  • Estyniad i 'adain' ogleddol yr ysgol - cynyddu maint y neuadd bresennol o 80 medr sgwâr.
  • Estyn y maes parcio presennol gan ddefnyddio darn o dir sy'n eiddo i'r Cyngor i ddarparu 21 o leoedd parcio ychwanegol.
  • Cael gwared ar ddwy ystafell ddosbarth dros dro sy'n cael eu defnyddio gan yr ysgol ar hyn o bryd (sy'n golygu bydd yr ysgol ar ei hennill o ddwy ystafell ddosbarth o ganlyniad i'r cynllun).
  • Man chwarae wyneb caled ychwanegol i gymryd lle cae chwarae glaswellt presennol nad oes modd ei ddefnyddio ar gyfer rhannau helaeth o'r flwyddyn.
  • Llwybr troed pwrpasol newydd i gysylltu'r cyfleuster gofal plant newydd â'r maes parcio.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ym mis Mai 2021 i’r datblygiad, i gyflawni dwy elfen y buddsoddiad. Rydyn ni ar y trywydd iawn i orffen y gwaith yn 2022.