Skip to main content

Tir - Cyfleoedd trosglwyddo

Oes gyda chi gynnig arloesol i ddefnyddio Tir y Cyngor i wella golwg eich cymuned leol neu ddarparu gwasanaethau neu gyfleoedd ymgysylltu a all gyfrannu at gefnogi blaenoriaethau Pobl, Lleoedd a Ffyniant? Cysylltwch â charfan RhCT Gyda'n Gilydd drwy ebostio rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425368 i drafod eich cynnig.
Image 1
Image 3
Image 2

Os oes gyda chi gynnig i ddefnyddio Tir y Cyngor i ddarparu gwasanaethau neu weithgareddau cymunedol, mae tri llwybr gyda ni i grwpiau fwrw ymlaen â thrafodaethau;

  1. Cynigion trosglwyddo tir cymunedol mawr e.e. efallai y bydd cynlluniau'n cynnwys datblygu adeiladau neu gyfleusterau cymunedol, neu'n cynnwys darn daearyddol mawr o dir. Mae hyn yn ddull dau gam sy'n cynnwys cyflwyno “Ffurflen Datgan Diddordeb” i ddechrau ac yna Cynllun Busnes sy'n cynnwys costau a thystiolaeth yn dangos bod eich cynnig yn diwallu anghenion y gymuned, ei fod yn hyfyw ac yn gynaliadwy. Llenwch y “Ffurflen Datgan Diddordeb” sydd ynghlwm i gofrestru unrhyw gynigion cychwynnol sydd gyda chi.
  2. Cynigion ar gyfer defnydd cymunedol / rheoli Tir Hamdden er budd y gymuned
    Llenwch y ffurflen Cais i ddefnyddio Tir Hamdden at Ddefnydd Cymunedol sydd ynghlwm.
  3. Garddio Cymunedol ar raddfa Fach neu Brosiect Tyfu Bwyd- gallai'r rhain fod yn brosiectau cymunedol llai sy'n gyflymach i'w cychwyn gan fod llai o ofynion cyllido.  Mae hyn yn gofyn am ffurflen gais symlach.  Gweler manylion y broses isod

    Os ydych chi am ddefnyddio tir y Cyngor yn benodol ar gyfer garddio cymunedol neu brosiectau dyfu bwyd, llenwch y ffurflen gais sydd ynghlwm a'i ebostio at garfan RhCT Gyda'n Gilydd:
    rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk.  Gan fod staff yn gweithio gartref ar hyn o bryd, peidiwch â dychwelyd y ffurflen wedi'i llenwi i unrhyw un o Swyddfeydd y Cyngor.

    Y broses:
  • Unwaith i ni dderbyn y ffurflen, bydd gweithiwr achos o adran Eiddo'r Cyngor yn ei hadolygu gan roi sylw i amryw o faterion, er enghraifft: gweithredoedd eiddo'r Cyngor a sylwadau / cyngor gan adran y Cyngor. 
  • Bydd llythyr yn cael ei anfon atoch chi naill ai'n rhestru gofynion y Cyngor er mwyn i chi fwrw ymlaen gyda'ch defnydd o'r ardal, neu'n egluro nad oes modd i'r Cyngor fwrw ymlaen gyda'r cais yn yr achos yma.
  • Os caiff defnydd y tir ei gynnig i chi, bydd y llythyr yn gofyn i chi gadarnhau eich bod chi'n awyddus i barhau ar y sail honno.
  • Unwaith i ni dderbyn eich cadarnhad, bydd y Cyngor yn creu cytundeb ffurfiol i chi ei lofnodi a bydd modd i chi ddefnyddio'r ardal o'r amser hwnnw ymlaen.
  • Ar y cam yma bydd ffi o £60 i dalu costau'r Cyngor

    I wneud cais, llenwch y ffurflen Cais i ddefnyddio tir y Cyngor at ddibenion garddio yn unig

Gweld y cyfleoedd trosglwyddo tir cyfredol:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ("y Cyngor") wedi datgan nad oes angen y darn o dir canlynol bellach ac mae'n chwilio am gynigion cymunedol arloesol ar gyfer rheoli'r adeilad yn barhaus ac i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau sy'n mynd i'r afael ag anghenion yn y gymuned leol neu'r fwrdeistref gyfan.

Hoffai'r Cyngor ystyried barn sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a Chynghorau Trefi a Chymunedau ledled Rhondda Cynon Taf (RhCT) ynglŷn â defnyddio'r eiddo yma fel "Ased o Werth yn y Gymuned" i gyflawni gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y gymuned ehangach a lle bo hynny'n bosibl yn cyfrannu at y blaenoriaethau allweddol sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Corfforaethol Cyngor 2020–2024, "Cyflawni Newid". Cynllun Corfforaethol y Cyngor | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Byddwn ni'n rhoi "Cyfle Euraid 30 diwrnod" i unrhyw grwpiau cymunedol sydd am "Fynegi Diddordeb" mewn trosglwyddo prydles y tir er mwyn i'r gymuned ei ddefnyddio.

Ar ôl mynegi diddordeb, ac ar sail tystiolaeth y bydd modd i'ch cynnig gyfrannu at anghenion y gymuned leol, mae'n bosibl y cewch eich gwahodd i gymryd rhan yn y cam nesaf lle bydd gyda chi hyd at 13 wythnos i lunio Cynllun Busnes sy'n nodi'r holl gostau. Bydd raid i chi roi tystiolaeth bod eich cynnig chi’n diwallu anghenion y gymuned, ei fod yn ymarferol ac yn gynaliadwy.

Sylwch: Mae'r broses “30 Diwrnod” yn sicrhau cyfle cyfartal i bob grŵp cymunedol a menter gymdeithasol a hoffai fynegi diddordeb.

Os na fydd diddordeb gan y gymuned yn yr eiddo yma, yna mae modd i'r Cyngor ystyried cael gwared ar yr ased ar y farchnad agored.

Os ydych chi am Fynegi Diddordeb cychwynnol ynghylch yr eiddo canlynol, ewch ati i gwblhau'r ffurflen Mynegi Diddordeb isod a'i hanfon drwy e-bost at RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk cyn y dyddiad cau sydd wedi'i nodi isod. Sylwch: Peidiwch â phostio unrhyw ffurflenni wedi'u llenwi i swyddfeydd y Cyngor gan fod y garfan yn gweithio gartref ar hyn o bryd.

Ffurflen Mynegi Diddordeb 

Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth bellach arnoch i'ch helpu â'ch cynnig, anfonwch e-bost at Garfan Datblygu'r Gymuned y Cyngor: RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk neu ffonio'r Swyddogion Datblygu ar gyfer yr ardal wedi'u nodi isod. Bydd modd iddyn nhw ddarparu cyngor, cymorth a'ch cyfeirio at asiantaethau cymorth priodol os oes angen.  

Ased Llun o'r eiddo o'r awyrMap o'r awyr
 Disgrifiad o'r eiddo a'r feddianaeth neu ddefnydd presennol neu flaenorolDyddiad AgorDyddiad Cau

Tir yn Fernhill (hen safle twnnel polythen)

 

Cyfeiriad: Fernhill, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, CF45 3EG

 

 

Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN): L000 1323

 Site photo  Fernhill Poly Tunnel Site  

Mae'r tir yn Fernhill, Aberpennar yn mesur tua 1001.89 m2. Roedd y safle yn arfer cynnwys 2 dwnnel polythen mawr oedd yn cael eu defnyddio gan grŵp cymunedol lleol. Mae'r safle bellach yn wag ac wedi'i glirio'n ddiweddar.

 

Yr awgrym o ran defnydd y tir yw ei ddefnyddio fel gardd gymunedol er budd y gymuned.

 

Bydd raid i ymgeiswyr wneud ymholiad gyda'r Adran Gynllunio os ydy'r cynigion yn ymwneud â defnydd heblaw'r awgrym uchod.

 

Mae'r tir ar gael i'r gymuned trwy drosglwyddo'r brydles.

 

Bydd unrhyw brydles yn destun Hysbysiad Man Agored ar sail Adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Amodau arfaethedig:

 

1. Prydles – yn amodol ar gontract a chytuno ar y telerau.

 

2.Tenant i fod yn gyfrifol am unrhyw astudiaethau dichonoldeb sy'n ofynnol (os oes angen) er mwyn llywio a chael gafael ar y caniatâd perthnasol sydd ei angen ar gyfer datblygu'r safle.

 

3. Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r safle, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atgyweiriadau, gwelliannau, cynnal a chadw, cyfleustodau ac unrhyw gydymffurfiaeth statudol.

 

4. Bydd y tenant yn gyfrifol am gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer lleiafswm o £10 miliwn fesul hawliad.

 

5. Bydd y tenant yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynigion datblygu safle, os yw hynny'n berthnasol.

 

6. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth am delerau ychwanegol os yw cynigion yn cael eu hystyried ymhellach.

   Caeedig

Caeau Chwarae Rhondda Ganol

 

Heol Gelli, Tonypandy, RhCT, CF40 1DB

 

UPRN 90413

mid Rhondda playing fields site photo

Mid Rhondda Playing Fields Red Line Aerial Map

 

Caeedig