Skip to main content

Plaza'r Porth

Nod Canolfan Cydnerthedd y Gymuned Plaza'r Porth yw dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau, gwybodaeth a chymorth o dan un to yng nghanol ardal De Cwm Rhondda.

Porth Plaza

Porth Plaza library view1

Porth Plaza Library area1

Cyfleusterau

Gwasanaeth Cyngor IBobUn

Mae gwasanaethau IBobUn yn helpu unigolion i wneud cais neu gyflwyno tystiolaeth bellach ar gyfer rhai o wasanaethau'r Cyngor, a hynny ar sail apwyntiad. Mae modd trefnu apwyntiad yma

Gofal Plant

Mae Meithrinfa Oriau Dydd Sparkles (ar lawr gwaelod y
Ganolfan) yn feithrinfa ddiwrnod llawn, sydd ar agor rhwng 7.30am a 6.00pm o
ddydd Llun i ddydd Gwener.  Rydyn ni'n darparu prydau bwyd, diodydd,
byrbrydau, cewynnau a'r holl weithgareddau sydd eu hangen er mwyn meithrin
plant rhwng 6 wythnos a 5 oed.  Mae'r holl aelodau staff yn gymwysedig ac
wedi cyflawni gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  Am ragor o
wybodaeth ffoniwch 01443 497183 neu e-bostiwch sparklesdaynursery@outlook.com,
neu dewch o hyd i ni ar gyfryngau cymdeithasol: - https://www.facebook.com/sparklesdaynurseryporth

Llyfrgell

Mae gwasanaeth Archebu a Chasglu'r Llyfrgelloedd ar gael yn y Ganolfan:

 

DiwrnodAmseroedd

Dydd Llun

AR GAU

Dydd Mawrth

9.00am – 6.30pm

Dydd Mercher

9:00am - 5:00pm

Dydd Iau

9.00am – 1.00pm

Dydd Gwener

9.00am – 6.00pm

Dydd Sadwrn

9.00am – 1.00pm

Mae gwasanaeth y llyfrgelloedd hefyd yn cynnal dosbarthiadau a sesiynau gwybodaeth, gan gynnwys:-

 

Dydd Mawrth


Prynhawn: Grŵp Cymorth Nam Clyw Cwm Rhondda.  3ydd Dydd Mawrth y mis rhwng 1.30pm a 3.00pm. 
Hoffech chi ragor o wybodaeth? Croeso ichi ffonio Albert Knight ar 01443 566693.

 

Dydd Iau

 

Prynhawn: Urdd Pobl Hŷn Arosfa (bob yn ail wythnos). 
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 685895.

 

 

Ystafelloedd i'r Gymuned

Porth plaza meeting rooms 2v1Mae gan y Ganolfan
bedair ystafell i'r gymuned ac un ystafell TG:


Porth Plaza IT Suite1

Mae modd i Grwpiau Cymunedol, staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a sefydliadau dielw ddefnyddio'r ystafelloedd cyfarfod a'r ystafelloedd hyfforddi am ddim. Gall sefydliadau masnachol logi'r ystafelloedd yma am brisiau rhesymol.

 

Am fanylion pellach neu i gadw ystafell, ffoniwch ni ar 01443 562227 neu e-bostiwch Llyfrgell.YPorth@rhondda-cynon-taf.gov.uk


Mae amrywiaeth o grwpiau cymunedol lleol yn defnyddio'r ystafelloedd i'r gymuned yn y Ganolfan: - 

 

 


 

 

Cyfrifiaduron i'r
Cyhoedd

Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell, cewch chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus am ddim yn unrhyw un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf.   Mae rhagor o wybodaeth am ymuno â llyfrgell yn RhCT yma.

Cydlynydd Datblygu'r
Gymuned

Amanda Thomas – mailto:Amanda.thomas2@rctcbc.gov.uk

Cyswllt wifi am ddim

Bydd cyfrinair Wifi yn cael ei arddangos yn y Ganolfan.

Toiledau

Porth Plaza diabled toilet facility1

Mae gan y Ganolfan doiledau i ddynion a menywod, yn ogystal â chyfleuster newid babanod, gwely newid trydanol addasadwy a theclyn codi Oxford.

 


Ar gyfer unrhyw un sydd angen defnydd hygyrch o gyfleusterau toiled a lleoedd newid, mae'r adeilad bellach yn cynnwys 'Changing Place', sy'n galluogi pobl sydd angen offer a lle ychwanegol i ddefnyddio toiledau gwneud hynny yn ddiogel ac yn gyffyrddus.

 

Gweler yr wybodaeth ar gyfleuster toiledau 'Changing Place'. Mae un ohonynt ar gael ar y llawr gwaelod at ddefnydd y cyhoedd yn y Ganolfan (dolen i'r llun).  Mae rhestr o'r cyfleusterau yma ledled y DU ar gael yma.

Gwasanaethau

Cyngor a chymorth cyflogaeth                              

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth a hyfforddiant achredig ac heb ei achredu yn y gymuned i holl drigolion RhCT sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfloedd i wirfoddoli. Maen nhw'n cynnal sesiynau wythnosol yn y Ganolfan sy'n cynnwys:-

 

 

Tuesday PM – Work Club

Wednesday PM – Essential Skills

Friday AM – Digital Friday

    

 

Unrhyw ymholiadau? Croeso i chi ffonio 01443 57008.         

Addysg yn y Gymuned

Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau dysgu cymunedol yn ogystal â chynlluniau celfyddydol a diwylliannol yn cael eu cynnig yn y Ganolfan. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn y Ganolfan a byddan nhw'n cael eu hyrwyddo ar y dudalen we yma'n fuan.

Man Talu Lleol

Mae modd defnyddio'r man talu yma i dalu am ystod o wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys biliau treth y Cyngor, cyfraddau busnes a rhagor.

Cyngor ar Bopeth

Wedi'i leoli ym Mhontypridd (CF37 2BP), mae Cyngor ar Bopeth RhCT yn cynnig gwasanaethau allgymorth ledled RhCT, gan gynnwys y sesiynau canlynol yn y Ganolfan:-

  •   Bore Mawrth
  •   Prynhawn Mawrth - apwyntiad yn unig
  •   Bore Mercher
  •   Prynhawn Mercher - apwyntiad yn unig

Am gyngor neu ragor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, ffoniwch:-

  • Llinell gymorth (llinell dir) - 03444 77 20 20

Llinell weinyddol - 01443 853221 

Plaza'r Porth

Heol Pontypridd

Y Porth

CF39 9PG

Tel: 01443 682785

I gael rhagor o
wybodaeth am yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y Ganolfan, dilynwch ni ar y
cyfryngau cymdeithasol, ar Facebook, Twitter ac Eventbrite