RhCT Gyda'n Gilydd yw dull blaengar y Cyngor o weithio mewn partneriaeth â thrigolion a chymunedau.
Mae gwaith
Carfan RhCT Gyda'n Gilydd yn cynnwys Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái ac mae modd iddyn nhw roi cymorth i unigolion, grwpiau a gwasanaethau yn y ffyrdd a ganlyn:
Rhoi cymorth i grwpiau a sefydliadau lleol trwy'r broses o gymryd cyfrifoldeb dros reoli adeiladau neu dir y Cyngor.
Mae Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned yn darparu pwynt cydlynu, gan ymateb i anghenion Trigolion a Rhwydweithiau Cymdogaeth.
Rydyn ni'n gweinyddu grantiau bach y mae modd i grwpiau a sefydliadau lleol wneud cais amdanyn nhw er mwyn cefnogi'r gwaith gwych maen nhw'n ei gyflawni.
Rhoi cymorth i gymunedau i gynnal sgyrsiau ac ymgynghoriadau ystyrlon â thrigolion. Darganfod beth sy'n bwysig i bobl a nodi meysydd gwaith allweddol a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.
Cysylltwch â ni i gael cymorth. Mae ein carfan yn hapus i helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gyda chi.
Diogelu data
Bwriad y Cyngor yw sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel a'i fod yn rhoi gwybod i chi sut mae'n defnyddio'ch gwybodaeth.
I ddysgu am sut mae'ch preifatrwydd wedi'i ddiogelu a sut a pham rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau i chi, ewch i'n hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer gwasanaethau yma: www.rctcbc.gov.uk/hysbysiadpreifatrwyddgwasanaeth a thudalennau diogelu data'r Cyngor yma: www.rctcbc.gov.uk/diogeludata.