Mae gan Apêl Siôn Corn RhCT flanced â phatrwm Treftadaeth Cymru arni fydd yn mynd ar werth mewn ocsiwn i godi arian i brynu anrhegion i blant Rhondda Cynon Taf. Bob blwyddyn, mae'r Apêl yn sicrhau nad oes un plentyn yn colli allan adeg y Nadolig.
Bob blwyddyn, mae'r Apêl yn sicrhau nad oes un plentyn yn colli allan adeg y Nadolig. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae preswylwyr, busnesau a sefydliadau caredig wedi rhoi miloedd o anrhegion i blant a fyddai ddim, o bosibl, wedi derbyn anrheg i'w hagor ar fore Nadolig.
Bydd holl elw'r ocsiwn yn mynd tuag at brynu anrhegion i blant Rhondda Cynon Taf nad ydyn nhw, o bosibl, wedi cael profiad Nadoligaidd sydd mor gyfarwydd i ni, a hynny yn ôl gweithwyr cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Gwybodaeth am y flanced:
Cafodd y flanced ddwbl ei chreu gan ddefnyddio dros werth £80.00 o wlân a chymerodd hi dros 6 mis i'w gwneud.
Mae'r flanced yn unigryw, wedi'i gwneud gyda llawer o gariad. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at helpu plant yn Rhondda Cynon Taf i gael Nadolig fydden nhw ddim fel arfer wedi'i gael.
Mae haelioni a charedigrwydd pobl Rhondda Cynon Taf mor amlwg bob blwyddyn, o'r rheiny sy'n prynu anrhegion ar gyfer Apêl Siôn Corn i'r rheiny sy'n codi arian ac ymwybyddiaeth – rydych chi i gyd yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Yr ocsiwn:
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ocsiwn cudd, rhaid i chi gyflwyno cais erbyn 12.00pm ar 18 Rhagfyr. Mae pris cadw ar yr eitem, sef £80, sy'n ystyried y costau ac amser i wneud yr eitem unigryw a gwych yma.
Felly, rhaid i bob cais fod dros £80 i'w ystyried.
RHAID i chi gynnwys yr isod i gyflwyno cais:
- Enw llawn
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Cyfeiriad cartref
- Swm y cais
Bidio ar-lein nawr ar agor
Rheolau:
- Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 12.00pm ar 18/12/2019.
- Byddwn ni'n cysylltu â'r unigolyn sy'n cyflwyno'r cais uchaf yn gyntaf.
- Os bydd dau gais gyda'r un swm, bydd un yn cael ei ddewis ar hap.
- Os nad oes modd i'r unigolyn cyntaf brynu'r eitem rhagor, byddwn ni'n cysylltu â'r unigolyn oedd yn ail. Bydd hyn yn parhau mewn trefn ddisgynnol hyd nes i ni ddod o hyd i unigolyn i brynu'r eitem.
- Bydd holl elw yr ocsiwn yn mynd tuag at brynu anrhegion ar gyfer Apêl Siôn Corn.