Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Amdanon Ni

Cafodd Vision Products ei sefydlu ym 1993 yn rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'n fusnes sy'n cael ei gefnogi ac sy'n darparu ystod amrywiol o gynnyrch a gwasanaethau achrededig â phris cystadleuol.

Amdanon ni

Vision-Products-Building-Square
Cwmni Vision Products
  • Rydyn ni'n cefnogi oedolion ag anableddau, i oresgyn y rhwystrau o ran cyflogaeth.
  • Rydyn ni'n darparu cyfleoedd iddyn nhw allu ennill sgiliau a chymwysterau er mwyn dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy â chyflog.
  • Rydyn ni'n darparu cymorth a chefnogaeth yn y swydd yn rhan o fecanweithiau cymorth wedi'u teilwra ac addasiadau yn y gweithle.
  • Caiff y cymorth ei deilwra ar gyfer anghenion bob unigolyn.
  • Rydyn ni'n galluogi ein gweithwyr i wella'u sgiliau'n barhaus, sefydlu gyrfa a'i chynnal am gyfnod hir.

Cynnal Annibyniaeth

Mae sicrhau gwaith â chyflog yn galluogi unigolion i ddechrau byw eu bywydau'n fwy annibynnol. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a'u llesiant. Caiff gweithwyr eu gwerthfawrogi, maen nhw'n rhan o gymuned ac yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd a gwneud cynnydd parhaus o fewn y busnes ac o ran cyflogaeth allanol. Rydyn ni'n falch iawn o fod yn un o'r unig gyflogwyr sy'n Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru ac yn meddu ar achrediad Buddsoddi mewn Pobl ers cyfnod hir.

Trwy weithio gyda Vision Products, boed hynny fel partner neu gwsmer, rydych chi'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sy'n byw yn y cymunedau lleol.

Windows-Worker-Square
Quality-and-Rating-Square

Gwasanaeth o Safon

Prif flaenoriaeth y busnes o hyd yw cyflogi, hyfforddi a chefnogi pobl ag anableddau. Dros y 25 blynedd diwethaf, rydyn ni wedi sicrhau enw da yn y diwydiant ar gyfer darparu cynnyrch a gwasanaethau achrededig rhagorol Sefydliad Safonau Prydeinig a FENSA.

Rydyn ni'n parhau i gynnal safonau'r diwydiant, ynghyd â gwasanaeth i gwsmeriaid arloesol ar gyfer ein partneriaid a'n cwsmeriaid cyhoeddus, preifat a domestig.

Achrediadau