Os oes gyda chi anabledd, efallai eich bod chi’n gymwys i gael cymorth i brynu neu drefnu llogi trafnidiaeth sy’n diwallu’ch anghenion.
Mae Cynllun Motability yn eich caniatáu chi i ddefnyddio cyfradd uwch elfen symudedd o’ch Lwfans Byw i’r Anabl i logi cerbyd newydd neu brynu cerbyd newydd neu ail-law, sgwter neu gadair olwyn ar hurbwrcas. Yn ogystal â hynny, gall Cynllun Motability fod o gymorth i chi dalu tuag at gostau addasu’r cerbyd. I gael rhagor o fanylion, galwch heibio i wefan Motability http://www.motability.co.uk| neu ffonio 0845 456 4566.
Mae’r Adran Drafnidiaeth yn rhoi cyngor ymarferol ar faterion gyrru, addasiadau i gerbydau a dewis o gerbyd ar gyfer gyrwyr sy’n anabl a theithwyr sy’n anabl.
I gael rhagor o fanylion am faterion teithio i bobl anabl, galwch heibio i wefan yr Adran Drafnidiaeth: http://www.dft.gov.uk/topics/access|/| neu ffonio 0300 330 3000.
Mae Canolfan Asesu Gyrwyr Anabl Cymru sydd â’i chanolfan yn Ysbyty Rookwood, Llandaf, Caerdydd, (Ffôn: 029 2055 5130), yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth rhad ac am ddim i bobl hŷn ac anabl, aelodau o’r teulu a gweithwyr yn y maes; dewis o gerbydau a dewis o reolyddion a chyngor ar faterion gallu i ddysgu, dal ati neu fynd yn ôl i yrru; asesiadau a chyngor ar gyfer teithwyr ar fynd i mewn i gerbydau a dod allan o gerbydau a llwytho cadeiriau olwyn ac offer eraill yn ddiogel.
Mae Cynllun Bathodyn Glas yn rhoi breintiau i rai pobl sydd ag anableddau corfforol neu nam ar y synhwyrau.
Manylion Cyswllt y Cynllun Bathodyn Glas
Ffôn: 01443 442100
E-bost: bathodynglas@rctcbc.gov.uk|
Fel arall, galwch heibio i dudalen wybodaeth Cynllun Bathodyn Glas Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/topics/transport/integrated/bluebadgescheme/lang=cy|