Skip to main content

Newyddion

Disgyblion Ifainc yn Dathlu Gwobr Ysgolion Anogaeth

Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Cwm Clydach yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Rhaglen Genedlaethol Ysgolion Anogaeth

06 Rhagfyr 2022

Dweud eich dweud ar ddyfodol y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned

Rydyn ni wrthi'n cynnal ymgynghoriad ynghylch dyfodol y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned ar ôl i'r Cabinet gytuno i gasglu barn pobl leol am ba opsiwn fyddai orau i barhau i gynnal y gwasanaeth ond mewn ffordd newydd

05 Rhagfyr 2022

Cadarnhau cyllid ar gyfer buddsoddiadau cyffrous mewn tair ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei chyfraniad cyllid tuag at adeiladau ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi. Bydd modd i waith ddechrau ar bob safle yn...

02 Rhagfyr 2022

Lido Ponty: Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan/Dydd Calan

Ar ôl blwyddyn o sesiynau nofio ben bore ym mhob tywydd, hwyl gyda'r teulu yn yr haf a sesiynau dŵr oer cyffrous newydd, mae Lido Ponty yn dod â thymor 2022 i ben gyda Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan.

01 Rhagfyr 2022

Gwaith adnewyddu safle seindorf mewn parc ym Mhontypridd yn symud ymlaen i'r cam nesaf

Bydd y gwaith o adnewyddu'r safle seindorf ym Mharc Coffa Ynysangharad nawr yn canolbwyntio ar yr ardal gyda ffens o'i chwmpas ar gyfer y gynulleidfa. Fydd ardal y safle seindorf ddim yn cael ei defnyddio dros dro i sicrhau cynnydd...

01 Rhagfyr 2022

CADWCH DRAW O GAEAU CHWARAEON NEU DDIRWY A DDAW!

Mae dau berchennog cŵn anghyfrifol wedi derbyn dirwyon a chostau sy'n gyfanswm o dros £500 gan y llys am ganiatáu i'w cŵn grwydro ar fannau cyfyngedig a/neu gaeau chwaraeon.

30 Tachwedd 2022

Ap Hamdden am Oes sydd ei newydd wedd

Gwiriwch amserlenni, chwiliwch am ddosbarthiadau, cadwch le ar sesiynau a llawer yn rhagor gyda'r ap Hamdden am Oes sydd ar ei newydd wedd.

30 Tachwedd 2022

Dirwy o bron i £4,000 am dipio'n anghyfreithlon

Mae tri o bobl wedi derbyn dirwyon sy'n dod i gyfanswm o bron i £4,000 am dipio'n anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf!

30 Tachwedd 2022

Y Cyngor yn rhybuddio yn erbyn masnachwyr twyllodrus

Mae Carfan Safonau Masnach y Cyngor yn parhau i dderbyn adroddiadau am fasnachwyr twyllodrus a galwyr ar stepen y drws yn ymweld ag eiddo'r henoed a phobl sy'n agored i niwed, waeth beth fo adeg y flwyddyn

30 Tachwedd 2022

DAL DAU BERCHENNOG CŴN ANGHYFRIFOL

Mae DAU berchennog cŵn brwnt wedi mynd 'am dro' i'r llys, gan adael yno gyda dirwyon a chostau o bron i £1,000!

30 Tachwedd 2022

Chwilio Newyddion