Skip to main content

Canlyniadau Safon Uwch

Mae disgyblion yn eu harddegau ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf yn dathlu derbyn canlyniadau gwych yn eu harholiadau Safon Uwch. Mae bron pob un ohonyn nhw wedi llwyddo i gael lle yn y brifysgol o'u dewis. 

Ymunodd Aelodau'r Cabinet, gan gynnwys y Cynghorydd Joy Rosser, sy'n gyfrifol am faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes a'r Cynghorydd Tina Leyshon, sy'n gyfrifol am faterion Plant a Phobl Ifainc, â phobl ifainc mewn ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol ac yng Ngholeg y Cymoedd i glywed am lwyddiant y disgyblion wrth iddyn nhw gael gwybod eu canlyniadau. 

Llwyddodd 97% o'r 1,955 o ddisgyblion yn Rhondda Cynon Taf i ennill gradd A*-E. Llwyddodd 68.8% ennill gradd A*-C ac enillodd 14.6% radd A* neu A. Mae'r ffigyrau yma wedi'u seilio ar ganlyniadau CBAC yn unig. Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion ynglŷn â chanlyniadau byrddau arholi eraill ar ôl iddyn nhw gael eu cyhoeddi. 

Meddai'r Cynghorydd Rosser, a aeth i ymweld â nifer o ysgolion: "Llongyfarchiadau enfawr i'r holl ddisgyblion sydd wedi gwneud yn arbennig o dda heddiw. Diolch yn fawr iddyn nhw am adael i mi ymuno â nhw wrth iddyn nhw gael gwybod eu canlyniadau. Roedd yn bleser rhannu'r cyffro a'r rhyddhad gyda nhw. 

"Roedd yn hyfryd gweld bod yr holl waith caled wedi bod gwerth chweil a bod y disgyblion wedi derbyn y canlyniadau roedden nhw eu hangen er mwyn mynd i'r brifysgol o'u dewis neu er mwyn dilyn llwybr i addysg uwch. 

"Roeddwn i hefyd yn falch o weld cynifer o staff ym mhob ysgol yn cynnig cefnogaeth i'r bobl ifainc wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau. Roedd y staff ar gael i gynnig cymorth i'r disgyblion a oedd heb dderbyn y canlyniadau roedden nhw'n eu disgwyl ac yn eu tywys nhw trwy'r broses clirio fel eu bod nhw'n gallu dewis prifysgol arall." 

Ychwanegodd y Cynghorydd Leyshon: "Mae gwaith caled y disgyblion, athrawon a'r rhieni, wrth gwrs, yn dwyn ffrwyth flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae'r disgyblion yn rhagori yn eu harholiadau Safon Uwch. 

"Fyddai'r llwyddiant yma ddim yn bosib oni bai am yr amgylcheddau addysg ysbrydoledig, a'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael yn y cartref a'r ysgol ar gyfer ein disgyblion gweithgar ac uchelgeisiol. 

"Roedd bod yn yr ysgolion yn gweld cymaint o blant yn derbyn y canlyniadau roedden nhw eu hangen yn brofiad cyffrous iawn. Mae modd iddyn nhw symud cam yn agosach at eu gyrfaoedd a chyflawni eu huchelgeisiau boed hynny drwy'r brifysgol, coleg, neu trwy ddilyn cyrsiau a hyfforddiant galwedigaethol."

Wedi ei bostio ar 21/08/2017