Skip to main content

Sesiwn Blasu yn y Pwll a'r Gampfa AM DDIM

Mae modd i breswylwyr fwynhau eu sesiwn gyntaf yn y pwll a'r gampfa AM DDIM yn unrhyw un o ganolfannau hamdden Cyngor Rhondda Cynon Taf. 

Mae'r cynnig yma ar gael i unrhyw berson sydd ddim yn aelod Hamdden am Oes. Cafodd y cynnig yma ei lansio er mwyn arddangos y gwelliannau enfawr sydd wedi cael eu gwneud i ganolfannau hamdden y Cyngor drwy #buddsoddiadRhCT. 

Bydd bron £2 miliwn yn cael ei wario yn rhan o raglen buddsoddi ehangach gwerth £200 miliwn dros dair blynedd er mwyn darparu campfeydd modern a bywiog a chanolfannau hamdden sy'n ysbrydoli pobl i fyw bywyd mwy iach. 

Yn ogystal â buddsoddiad sylweddol er mwyn prynu'r cyfarpar diweddaraf ar gyfer y campfeydd, mae'r ystafelloedd ffitrwydd wedi cael eu hadnewyddu ac mae gwedd newydd i'r derbynfeydd ac ardaloedd mewnol. 

Cafodd cynllun sesiwn blasu yn y pwll a'r gampfa ei lansio er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl ag sy'n bosib yn gweld yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni. 

Er mwyn manteisio ar y cyfle yma, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol neu'r ganolfan hamdden. Bydd gweithwyr ar gael i'ch helpu chi i drefnu sesiwn. 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yn Rhondda Cynon Taf: "Mae canolfannau y Ddraenen Wen, Llanilltud Faerdref, Cwm Rhondda, Tonyrefail ac Abercynon wedi elwa o dderbyn campfeydd newydd, diolch i #buddsoddiadRhCT. 

"Rydyn ni wedi gweld bod nifer y bobl sydd yn ymaelodi wedi cynyddu i fwy na 10,000 eleni. Mae'r rhif yma'n golygu bod pobl o bob oed a gallu yn mwynhau ffordd o fyw fwy iach mewn canolfannau hamdden modern a deniadol. 

"Yn ogystal â chael effaith wych ar iechyd a lles preswylwyr RhCT, mae'r cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi ymaelodi yn golygu ein bod ni'n cynhyrchu rhagor o incwm a bod ein canolfannau yn fwy cynaliadwy. 

"Er bod nifer y bobl sy'n ymaelodi yn uwch nag erioed, rydyn ni'n gwybod bod yna breswylwyr yn RhCT sydd erioed wedi mwynhau'r campfeydd neu byllau nofio sydd ar gael iddyn nhw. Rydyn ni eisiau cynnig sesiwn blasu am ddim iddyn nhw. Mae hyn yn golygu bod rhagor o bobl yn gallu elwa o'r buddsoddiadau sydd wedi cael eu gwneud." 

Mae modd i chi chwilio am eich canolfan hamdden leol ar Facebook a'i hoffi. Neu, mae gwefan y Cyngor, www.rctcbc.gov.uk/hamdden, yn cynnwys gwybodaeth am bob canolfan hamdden, amserlenni dosbarthiadau a phyllau nofio a llawer rhagor. Mae'r wefan hefyd wedi ychwanegu swyddogaeth Ymuno Ar-lein, sy'n golygu bod modd i bobl gofrestru ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes o'r cartref. 

Cafodd aelodaeth Hamdden am Oes ei lansio er mwyn mynd law yn llaw â'r buddsoddiad mewn cyfleusterau Hamdden. Mae hyn yn cynnwys mynediad diderfyn i'r gampfa (gan gynnwys sesiwn sefydlu), nofio (gan gynnwys gwersi), dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do ym mhob un o ganolfannau hamdden y Cyngor, o £35/mis.

 

Wedi ei bostio ar 17/08/2017