Skip to main content

Lido Ponty yn Croesawu'i 60,000fed ymwelydd y tymor yma

Mae Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru, wedi croesawu'i 60,000fed ymwelydd yn nhymor 2017. Mae 160,000 o ymwelwyr, felly, wedi ymweld â'r Lido ers iddo agor yn 2015. 

Diwrnod cyntaf tymor 2017 oedd Ebrill 8, yn ystod Gwyliau'r Pasg. Er gwaethaf y tywydd, mae miloedd o bobl o ymhell ac agos wedi ymweld â'r lle ers hynny. Diwrnod olaf y tymor fydd 10 Medi, felly, cofiwch alw heibio i atyniad dŵr awyr agored gorau Cymru cyn hynny. 

Daeth i'r Lido gyda'i theulu ac roedd hi wrth ei bodd mai hi oedd ymwelydd rhif 60,000. Cafodd hi fag Lido Ponty yn llawn anrhegion bach a band llawes. Roedd hi ar ben ei digon! 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Unwaith eto, mae'r tymor wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Rydyn ni wedi croesawu ymwelwyr o bob rhan o ymhell ac agos. 

“Mae'n syfrdanol i feddwl bod 160,000 o bobl wedi ymweld â'r lle ers iddo agor yn 2015. Rydw i wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd carreg filltir arall, drwy groesawu ein hymwelydd rhif 60,000 y tymor yma.” 

Mae modd i ymwelwyr i Lido Ponty, sy yng nghalon parc hynod o bert, gadw lle ar sesiynau nofio ar-lein hyd at 7 niwrnod ymlaen llaw. Mae hefyd hyn a hyn o lefydd ar gael yn y dderbynfa bob dydd. 

Nodwch: Does dim modd cadw lle dros y ffôn. 

Bydd plant o dan 16 oed unwaith eto yn cael nofio AM DDIM yn Lido Ponty yn 2017. Bydd raid i oedolion dalu £1.00 a bydd raid talu £2.50 ar gyfer gweithgareddau. 

Yn ogystal â'r cyfle i nofio mewn lonydd a nofio mwy hamddenol, mae hefyd gyda ni Bwll Sblash ar gyfer plant bach. Mae hefyd weithgareddau dŵr ar gael bob dydd, sy'n cynnwys teganau gwynt, Aqua Scooterz, a Water Walkerz. 

Mae ar agor bob dydd o 7.30am tan 7.15pm, gan ddechrau gyda sesiynau nofio mewn lôn, ac yna sesiwn nofio achlysurol, a gweithgareddau i ddilyn. Mae iddo dri phwll nofio cynnes (prif bwll, pwll gweithgareddau a phwll sblash) sy'n cynnig cyfleoedd gwych i deuluoedd, nofwyr selog a nofwyr cymdeithasol o bob oed a gallu, boed law neu hindda.  

Cofiwch 'hoffi' tudalen Lido Ponty ar Facebook a dilyn @LidoPonty ar Drydar am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.

Wedi ei bostio ar 29/08/17