Skip to main content

Parti Pwll Mwyaf yn Ne Cymru!

 

Ar y penwythnos, daeth dros 1600 o bobl i ddathlu 90 mlynedd ers agor Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru. 

Wedi'i agor yn 1927 yn wreiddiol, mae Lido Ponty wedi cael ei ailddatblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddenu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o'r wlad a thu hwnt ers iddo ailagor yn 2015. 

Ddydd Sadwrn diwethaf, mwynheuoedd dros 650o ymwelwyr y Sesiynau Nofio Hwyl, a gafodd eu cynnal trwy gydol y dydd rhwng 10.30am a 6pm.

Ar ôl y sesiynau yma roedd Parti Pwll a Barbeciw gyda'r nos, a ddenodd dros 160 o bobl.

 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Roedd ein dathliadau 90 mlynedd yn anhygoel, daeth dros 1600 o bobl i ddathlu gyda ni yn Lido Cenedlaethol Cymru dros y penwythnos. 

"Dechreuodd yr hwyl ben bore ac aeth ymlaen tan 9pm. Roedd hi'n wych gweld teuluoedd a phobl o bob oed yn gwneud y mwyaf o'n cyfleusterau gwych yn Lido Ponty wrth i ni gofio ei orffennol ac edrych ymlaen at ei ddyfodol. 

"Ein hachlysur ar y penwythnos oedd y parti pwll mwyaf yn yr awyr agored yn Ne Cymru." 

Cafodd Parc Coffa Ynysangharad ei agor yn swyddogol ddydd Llun, 6 Awst, 1923. Cafodd Lido Ponty, sy'n adeilad rhestredig - gradd II ei agor bedair blynedd yn diweddarach, ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 1927. Roedd y Lido yn drysor yng nghoron Pontypridd.

Ar ôl iddo gael ei gau yn 1991, cwblhawyd gwaith adfer sylweddol ar y safle ac ar Lido Ponty. Yn 2015, cafodd Lido Cenedlaethol Cymru ei ailagor gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a'i Huchelder Brenhinol Duges Cernyw. 

Ers agor y Lido ar gyfer y tymor 2017 ar 8 Ebrill, mae dros 54,000 o ymwelwyr wedi mwynhau'r cyfleusterau. Bydd y Lido ar agor tan ddydd Sul 10 Medi.

Mae plant o dan 16 oed yn cael nofio AM DDIM yn Lido Ponty. Mae rhaid i oedolion dalu £1.00 ac mae rhaid talu £2.50 ar gyfer gweithgareddau.  Yn ogystal â'r cyfle i nofio mewn lôn a nofio mwy hamddenol, a Phwll Sblash ar gyfer y rhai bach, mae gweithgareddau eraill ar gael sef teganau gwynt hwyl, 'Aqua Scooterz', 'Aqua Peddlerz' a 'Water Walkerz'.

Mae Lido Ponty ar agor bob dydd tan ddydd Sul 10 Medi, rhwng 7.30am a 7.15pm. Cadwch le hyd at 7 niwrnod ymlaen llaw www.lidoponty.co.uk

 

Cofiwch 'hoffi' tudalen Lido Ponty ar Facebook a dilyn @LidoPonty ar Twitter am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.

Wedi ei bostio ar 17/08/17