Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal gwaith clirio safle ar ran o'r Lwybr i'r Gymuned yn Nhonysguboriau.
Bydd y llwybr newydd yn gwella cyfleusterau cerdded a beicio ar gyfer trigolion lleol. Bydd e, mwy neu lai, yn dilyn llwybr yr hen reilffordd sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r A473. Cowbridge Road fydd ei ben gorllewinol pellaf, a bydd e'n mynd heibio i'r tu ôl i Barc Manwerthu Bro Morgannwg tuag at Westfield Court, sef ei ben dwyreiniol.
Mae'r Cyngor yn buddsoddi £50,000, trwy'i raglen #buddsoddiadRhCT yn y gwaith clirio'r safle, a fydd yn dechrau yn ystod ail hanner Awst, a bydd yn para tua phum wythnos.
Bydd hynny'n cynnwys clirio'r tyfiant a chodi'r hen reilffordd er mwyn creu lle 6 metr o led ar hyd y llwybr. Bydd y gwaith cychwynnol hefyd yn cynnwys gwaith ecoleg cysylltiedig.
Bydd angen sefydlu mesurau rheoli traffig yn lleol wrth nifer o fannau mynediad i'r llwybr cymunedol ar hyd y safle clirio – a bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r cwmni Alun Griffiths Ltd sy'n ymgymryd â'r gwaith i sicrhau bod cyn lleied o darfu ag y bo modd i drigolion.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Mae'r gwaith o wella llwybrau beicio a cherdded yn y Fwrdeistref Sirol yn beth pwysig i'r Cyngor, ac rydyn ni'n ymgynghori â thrigolion i gael eu barn ar y mater yma.
“Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn rhoi cymorth inni baratoi Map Rhwydwaith Integredig drafft ar gyfer Rhondda Cynon Taf, sy'n amlinellu'r llwybrau newydd i'w sefydlu dros y 15 mlynedd nesaf. Caiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn Tachwedd 2017.
“Bydd gwaith clirio'r safle ar gyfer y llwybr cymunedol yn Nhonysguboriau yn rhoi modd i gychwyn ar y gwaith adeiladu sydd i'w gynnal yn nes ymlaen eleni. Bydd y cynllun Teithio Llesol yma'n cynnig opsiwn arall sy'n gynaladwy a ddylai gyfrannu at ostwng nifer y teithiau car yn lleol a gwella iechyd a lles y gymuned.
“Mae'r prosiect, sydd wedi'i ariannu trwy raglen #buddsoddiadRhCT yn dystiolaeth, unwaith yn rhagor, o ymrwymiad y Cyngor i wella ein cymunedau â buddsoddiad wedi'i dargedu.”
Wedi ei bostio ar 16/08/2017