Skip to main content

Buddsoddi mewn Mannau Chwarae yn parhau

Bronwydd yn y Porth a Theg-fan yn y Maerdy – dyna'r ddau fan chwarae diweddaraf i gael offer chwarae a bywyd newydd, diolch i raglen #buddsoddiadRhCT Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Bydd £2filiwn yn cael ei fuddsoddi i wella dros 80 o fannau chwarae erbyn diwedd 2017/18. Mae'r buddsoddiad sylweddol yn sicrhau bod modd i drigolion ieuengaf y Fwrdeistref Sirol a'u rhieni/cynhalwyr (gofalwyr) fwynhau mannau chwarae modern a diogel.

Mae bron 50 o fannau chwarae wedi'u gwella a'u diweddaru, naill ai oherwydd offer chwarae newydd sbon neu offer wedi'u hadnewyddu, neu fynediad a llwybrau troed gwell i alluogi cadeiriau olwyn.

Mae mannau chwarae yn rhoi'r modd i deuluoedd dreulio amser yng nghwmni'i gilydd, yn rhad-ac-am-ddim, yn yr awyr agored. Yn ogystal â hybu ymarfer corff yn yr awyr agored, mae mannau chwarae - a'u hoffer - wedi'u dylunio i symbylu creadigrwydd a thanio dychymyg.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yn Rhondda Cynon Taf: "Mae'n cynllun buddsoddi mewn mannau chwarae ni'n mynd rhagddo'n gyflym, gyda chontractwyr a staff yn cyflwyno cyfleusterau ar eu newydd wedd trwy'r amser.

"Mae'r gwaith i Fannau Chwarae Bronwydd a Theg-fan yn mynd rhagddo'n dda iawn, a'r disgwyl yw y bydd y naill a'r llall yn agor mewn ychydig wythnosau. Yna, byddwn ni'n dechrau ar dymor o waith adeiladu ar y gyfres nesaf o fannau chwarae, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni, gan ddod â mannau chwarae modern a diogel i hyd yn oed rhagor o blant a chymunedau.

"Bydd dros £2filiwn yn cael ei fuddsoddi erbyn diwedd y rhaglen, sy'n rhan o raglen ehangach #buddsoddiadRhCT gwerth £200miliwn  mewn ysgolion, mannau chwarae, priffyrdd, tai, hamdden a mwy ar draws y Fwrdeistref Sirol dros 3 blynedd.

"Rydyn ni wedi gweithio'n galed i ddarparu mannau chwarae gwell sy'n ysbrydoli.  Mae hi wedi bod yn bleser gweld cymaint o bobl yn eu mwynhau nhw hyd yn hyn. Y cyfan rydyn ni'n ei ofyn yw bod cymunedau a defnyddwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ofalu amdanyn nhw er budd pawb."

Hoffech chi ragor o fanylion am ein rhaglen buddsoddi mewn mannau chwarae?  Ewch i www.rctcbc.gov.uk/buddsoddiadRhCT

 

Wedi ei bostio ar 09/08/2017