Skip to main content

Gwobr Aur i Gyngor RhCT i gydnabod ei

 

Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Aur o'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn sgil ei ymrwymiad i gefnogi aelodau a chyn-aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog.

Y Cyngor - yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Cyfamod y Lluoedd Arfog sy'n nodi'r gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael i aelodau a chyd-aelodau o'r Lluoedd Arfog - yw un o ddau awdurdod yng Nghymru i dderbyn Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Y Weinyddiaeth Amddiffyn ers iddo gael ei sefydlu yn 2014.

Dyma'r teitl uchaf o anrhydedd i sefydliadau sydd wedi arwyddo    Cyfamod y Lluoedd Arfog ac mae'r wobr yn cydnabod cyflawniadau Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyhoeddus.

Mae gan Rondda Cynon Taf draddodiad balch o ddathlu a chefnogi'i Gymuned y Lluoedd Arfog mewn achlysuron, megis  achlysur Diwrnod y Lluoedd Arfog a gafodd ei gynnal yn Aberdâr yn ddiweddar a ddenodd filoedd o bobl ac achlysur nodi canmlwyddiant Brwydr Passchendaele ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd. 

Cafodd Sarsiant Robert Bye, mae ei deulu'n dal i fyw yn RhCT, ei gydnabod yn yr achlysur yma am ei ddewrder ar faes y gad, a oedd y grym tu ôl dyfarnu'r Groes Fictoria iddo.

Mae'r achlysuron cymunedol a dinesig yn rhan allweddol o ymdrech y Cyngor i gydnabod yr ebyrth a wnaethpwyd gan gyn-aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog a'r ebyrth sy'n cael eu gwneud heddiw gan aelodau sydd wrthi'n gwasanaethu.

Mae achlysuron o'r fath yn rhoi cyfle i'n trigolion ddangos eu cefnogaeth at y Lluoedd Arfog. Mae'r achlysuron yn denu miloedd o bobl - o fabanod i gyn-filwyr - sy'n gwylio'r gorymdeithiau a rhoi'u balchder i'r cenedlaethau nesaf. 

Mae'r gefnogaeth mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ei darparu i'w Gymuned y Lluoedd Arfog hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • Mae modd i aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd fanteisio ar fynediad am ddim neu brisoedd gostyngol i'n cyfleusterau hamdden.
  • Mae Swyddog Cefnogi Addysg Lluoedd Ei Mawrhydi, wedi'i ariannu gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn, ar gyfer pob plentyn â rhiant sydd yn y lluoedd, rhiant sydd wedi gadael y lluoedd yn ddiweddar neu riant sydd wedi marw o ganlyniad i wasanaethu. Mae Jason Hurford, wedi'i benodi i gyflawni'r swydd, yn gyn-filwr a wasanaethodd am 24 mlynedd ac mae fe bellach yn filwr wrth gefn.
  • Mae polisïau hael yn y gweithle ar gael i filwyr wrth gefn i sicrhau bod modd iddyn nhw ymgymryd â'u dyletswyddau tra eu bod nhw'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf.
  • Rydyn ni wedi penodi Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog yn dilyn derbyn cyllid gan Gronfa Grant y Cyfamod. Gwasanaethodd Jamie Davies, wedi'i benodi i'r swydd, yn Y Llynges Frenhinol.
  • Rydyn ni'n cynnal diwrnodau Adeiladu Tîm gyda'r fyddin ar gyfer staff ac achlysuron recriwtio ar gyfer milwyr wrth gefn.

 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor RhCT ac Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Mae'n gyflawniad gwych i'r Cyngor dderbyn y wobr arbennig yma i gydnabod ein hymrwymiad parhaol i gefnogi'n Lluoedd Arfog.

"A ninnau'n sefydliad, rydyn ni'n cydnabod yr ebyrth mawrion mae ein dynion a menywod sy'n gwahaniaethu yn eu gwneud bob dydd i'n cadw ni'n ddiogel, ac rydyn ni hefyd yn cydnabod y rôl mae eu teuluoedd a chymuned y lluoedd arfog yn ei chwarae.

"Byddwn ni'n parhau i weithio'n galed i godi ymwybyddiaeth ar gyfer ein cyd-aelodau a'n haelodau presennol o'r Lluoedd Arfog. Mae'r achlysuron dathlu rydyn ni'n eu cynnal yn mynd o nerth i nerth, sy'n dangos bod holl drigolion Rhondda Cynon Taf yn gwerthfawrogi'u cyfranogiad."

Wedi ei bostio ar 17/08/2017