Skip to main content

Cynnau Goleuadau Cylchfan Tonysguboriau

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi y caiff y goleuadau traffig ger Cylchfan Tonysguboriau eu cynnau ar 21 Awst. Daw hyn yn sgîl cwblhau'r gwaith ailwynebu terfynol yn y cynllun gwella, a gostiodd filiynau lawer o bunnoedd.

Y datblygwyr yn bennaf fu'n ariannu'r cynllun hwn, gydag arian ychwanegol drwy #BuddsoddiadRhCT. Gwnaeth y cynllun welliannau sylweddol i gylchfan ffyrdd yr A473 a'r A4119. Mae hyn yn cynnwys cynyddu nifer y lonydd mynediad a'r lonydd cylchfan, cryfhau pontydd, creu troedffordd newydd, a gwella goleuadau a draeniau stryd.

Dechreuodd y datblygiad ym mis Medi 2016, a chychwynnodd y gwaith terfynol ar gyfer ailwynebu'r gylchfan a'i lonydd dynesu ym mis Gorffennaf 2017. Mae hyn yn cynnwys gosod marciau ffordd ac arwyddion traffig newydd. Gwnaed y gwaith dros gyfnod drwy gau'r ffordd yn achlysurol dros nos. Llwyddwyd i gwblhau hyn yn ddiweddar.

Bellach, mae'r Cyngor yn paratoi i gynnau'r goleuadau traffig newydd a gafodd eu codi ger y gylchfan. Bydd hyn yn digwydd ar ôl cyfnod brig y bore ddydd Llun, 21 Awst. Dyna pryd y bydd y terfyn cyflymder 40myh newydd, gydag arwyddion clir, yn dod i rym.

Bydd technoleg y signalau yn eu galluogi i ymateb i amodau cyflwr y traffig. Dyna'r ffordd i wneud y system mor effeithlon ag sy'n bosibl, er y bydd angen hyd at dair wythnos i'w hymsefydlu.

Yn ogystal â hyn, bydd gwaith gorffen ar y gylchfan hefyd yn yr wythnosau a ddaw. Ni ddisgwylir y bydd effaith sylweddol ar lif y traffig.

"Mae'r gwaith sylweddol yma yn amlygu prosiect blaenllaw pwysig a gostiodd filiynau lawer o bunnoedd, ac yn gynllun blaenoriaethol i'r Cyngor hwn," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am faterion y Priffyrdd. "Bydd yn gwella llif y traffig rhwng Cymoedd Rhondda ac Elái a thraffordd yr M4, sy'n dagfa i fodurwyr ar amseroedd brig.

"Mae'r gwaith wedi ehangu capasiti cylchfan ffyrdd yr A473 a'r A4119, a chyflwyno goleuadau traffig er mwyn gwella llif y traffig. Ochr yn ochr â hyn, bu llu o weithiau eraill, gan gynnwys troedffordd newydd a gwaith cryfhau pontydd.

"Mae'r Cyngor wedi gweithio yn agos gyda'r contractwr er mwyn gofalu fod y cynllun mawr pwysig yn cael ei gyflawni gan darfu cyn lleied â phosibl ar bobl leol - gan gynnwys y gwaith ailwynebu terfynol, a ofynnai am gau ffordd yr A4119 yn achlysurol dros nos. Hoffwn i ddiolch i'r preswylwyr am eu cydweithrediad, nid dim ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond drwy gydol y cynllun, a ddechreuodd ym mis Medi.

"Caiff y goleuadau eu cynnau ar 21 Awst, pan ddaw'r gylchfan yn llwyr weithredol, gyda'r terfyn cyflymder 40myh newydd.

"Bydd cyfnod cychwynnol i ddechrau, gyda'r dechnoleg a ddefnyddir yn y goleuadau traffig yn 'dysgu', yn y bôn, y dull mwyaf effeithiol o weithredu. Disgwylir y bydd hyn wedi cael ei gwblhau ymhen ychydig wythnosau."

Wedi ei bostio ar 18/08/2017