Skip to main content

Diweddariad - Cylchfan Tonysguboriau

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wrthi'n gwneud trefniadau i droi'r goleuadau traffig ar Gylchfan Tonysguboriau ymlaen mewn modd diogel. Dyma un o gamau olaf y cynllun gwella, sydd werth miliynau o bunnoedd.

Mae'r cynllun mawr, sydd wedi'i ariannu gan ddatblygwr ynghŷd â buddsoddiad gan y Cyngor drwy raglen #buddsoddiadRhCT, yn gwella dyluniad y gylchfan yn sylweddol. Bydd y gwaith hefyd yn cynyddu'r nifer o lonydd, yn cyflwyno goleuadau traffig ac yn gostwng y terfyn cyflymder i 40mya.

Mae gweithwyr wedi bod yn gwneud y gwaith terfynol o osod wyneb newydd ar y ffordd drwy gau'r gylchfan dros nos. Rydyn ni wedi nodi rhai mannau lle mae problemau wedi codi neu lle mae angen gosod wyneb newydd ar y ffordd. Byddai'n well i'r problemau yma gael eu datrys cyn i'r goleuadau traffig gael eu comisiynu a chyn i ni gael gwared ar y mesurau rheoli traffig.

Mae'n debygol y bydd y gwaith yn ymestyn hyd at yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 14 Awst.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Briffyrdd: "Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Contractwr i lunio rhaglen derfynol a fydd yn sicrhau bod y goleuadau traffig ar y gylchfan yn cael eu troi ymlaen mewn modd sy'n peri cyn lleied o drafferth â phosibl.

"Mae camau terfynol y cynllyn yn cymryd mwy o amser nag yr oedden ni'n ei ddisgwyl. Hoffwn i ddiolch i'r trigolion am eu cydweithrediad wrth i'r Cyngor a'r Contractwr ymdrechu i orffen y gwaith ar y cynllun mawr yma.

"Unwaith i ni gwblhau'r gwaith, bydd trefn newydd y gylchfan yma'n gwella llif traffig sy'n teithio tua'r gogledd/de rhwng Cwm Rhondda a Chymoedd Taf-Elái a'r M4. Mae'r ffordd yma'n gweithredu fel tagfa i fodurwyr yn ystod y cyfnodau mwyaf prysur."

Bydd y Cyngor yn rhannu unrhyw newyddion pellach ynglŷn â chamau terfynol y cynllun yma cyn gynted â phosibl.
Wedi ei bostio ar 09/08/17