Skip to main content

Dathlu pobl ifainc

 

Mae pobl ifainc Rhondda Cynon Taf wedi dathlu'u cyflawniadau yn ddiweddar mewn achlysur blynyddol wedi'i drefnu gan Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant y Cyngor.

 

Daeth dros 200 o bobl i'r Achlysur Dathlu sy'n cael ei gynnal bob blwyddyn i nodi llwyddiannau'r unigolion sydd wedi manteisio ar ymyraethau'r garfan. Dyma rai ohonyn nhw:

 

  • Cynllun Prentisiaeth sy'n cynnig prentisiaethau dwy flynedd â thâl ar draws ystod o wasanaethau'r Cyngor.
  • Rhaglen i Raddedigion sy'n cynnig cyfle datblygu dwy flynedd â thâl. Mae rheolwyr y dyfodol yn derbyn hyfforddiant yn cael eu paratoi drwy weithio ar brosiectau amrywiol ar draws yr awdurdod.
  • Camu i'r Cyfeiriad Cywir sy'n rhaglen hyfforddi ddwy flynedd â thâl ar gyfer pobl ifainc sy'n gadael gofal. Mae’r rhaglen yn cynnig profiad gwaith a hyfforddiant mewn amrywiaeth o adrannau'r Cyngor.
  • GofaliWaith sy'n cynnig cyfle i blant sy'n derbyn gofal ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd drwy amrywiaeth o brosiectau ac ymyraethau.
  • Profiad gwaith – Mae’r rhaglen yma yn cynnig lleoliadau gwaith gwerthfawr gyda’r Cyngor ac yn cydlynu cronfa ddata o gyflogwyr wedi'u harchwilio a'u cymeradwyo mae modd i Ysgolion Uwchradd eu defnyddio ar gyfer lleoliadau profiad gwaith.
  • Gwobr Cyflawniad Cadarnhaol – Mae’r wobr yma yn cael ei noddi gan nifer o gyflogwyr mawr lleol ac yn dathlu llwyddiannau ac ymrwymiad disgyblion. Mae hyn yn paratoi'r disgyblion am fywyd o weithio, megis presenoldeb, prydlondeb, ymddangosiad a chyrraedd terfynau amser.

 

Cafodd 27 o bobl ifainc eu cydnabod am gwblhau’r Cynllun Prentisiaeth, ar ôl ennill cymwysterau diwydiannol a phrofiad gwaith hanfodol mewn amrywiaeth o adrannau'r Cyngor dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn golygu bod 126 o bobl wedi cwblhau'r rhaglen ers iddi ddechrau yn 2012.

 

Bydd 33 o bobl ifanc yn dechrau'u prentisiaethau â thâl y mis nesaf, o ganlyniad i benderfyniad y Cyngor i barhau ac ymestyn ei Gynllun Prentisiaeth a Rhaglen i Raddedigion i roi cyfleoedd i drigolion.

 

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Rydyn ni wedi llwyddo i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth ar gyfer pobl ifainc Rhondda Cynon Taf o ganlyniad i’r mentrau amrywiol sydd gyda ni.

 

"Mae bron 130 o bobl ifainc wedi ennill y cymwysterau a'r profiad maen nhw eu hangen i sicrhau cyflogaeth o ganlyniad i'n Cynllun Prentisiaeth. Bydd 33 ychwanegol yn manteisio ar y cyfle yma y mis nesaf.

 

"Rydyn ni'n ymrói i barhau i gynnig y gefnogaeth yma a byddwn ni'n cynnig 150 o swyddi i bobl ifainc drwy ein cynlluniau prentisiaeth a rhaglen i raddedigion  dros y pum mlynedd nesaf.

 

"Mae'r rhan fwyaf o bobl ifainc sydd wedi cwblhau un o'n cynlluniau cyflogaeth wedi mynd ymlaen i sicrhau cyflogaeth gyda'r Cyngor.

 

"Mae ymdrechion y Cyngor i gynnig cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi i bobl o bob cefndir wedi derbyn canmoliaeth yn genedlaethol."

 

Un person sydd wedi elwa ar y cyfle yw Leon Griffiths:

Derbyniodd Leon ei dystysgrif yn yr achlysur ar ôl iddo gwblhau Hyfforddeiaeth Camu i'r Cyfeiriad Cywir yn gynharach yn y flwyddyn. Cyflawnodd Leon leoliadau  llwyddiannus yn Adran Iechyd Galwedigaethol a'r Adran Gyllid. Ers y lleoliadau, mae wedi derbyn swydd barhaol yn Uwchadran Materion Cyllid ac mae'n mwynhau ei swydd yn yr awdurdod.

 

Mae ei lwyddiant yn y cynllun yn dilyn stori ei chwaer, Louise, sydd hefyd wedi cwblhau Rhaglen Cam i'r Cyfeiriad Cywir. Mae hi bellach yn gweithio yn Adran Adfywio a Chynllunio'r Cyngor.

 

Cafodd y chwaer a'r brawd o Gwmparc eu magu yng ngofal Susanne Smith o Donpentre. Rhannodd y ddau eu stori yn rhan o ymgyrch recriwtio rhieni maeth ddwy flynedd yn ôl.

 

Ar y pryd eu huchelgais oedd sicrhau cyflogaeth llawn amser ac annibyniaeth. Maen nhw wedi llwyddo i gyflawni'r ddau beth yma ers hynny. Dymuniadau gorau i'r ddau ohonyn nhw yn y dyfodol.

 

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'n cynlluniau ni ffoniwch 01443424044 neu e-bostio CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

 

 

Wedi ei bostio ar 17/08/17