Skip to main content

Rhagor o leoedd parcio yng Ngorsaf Drenau Abercynon

Mae'r Cyngor wedi cwblhau cynllun i ychwanegu 11 o leoedd parcio ychwanegol ym maes parcio Gorsaf Drenau Abercynon, yn dilyn buddsoddiad gwerth £25,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y lleoedd ychwanegol eu creu er mwyn gwella darpariaeth barcio a mynediad at drafnidiaeth yn dilyn asesiad y Cyngor o drefn y maes parcio. Roedd y gwaith yn cynnwys addasu cyrbau, adleoli goleuadau'r maes parcio, gosod arwyddion ffordd newydd a newid marciau ffordd.

Sicrhaodd y Cyngor fuddsoddiad gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun.

Mae'r gwaith yn ychwanegol i Gynllun Parcio a Theithio Abercynon a gafodd ei gwblhau yn 2010. Roedd hyn yn cynnwys creu mwy na 150 o leoedd parcio ar y tir diffaith i ddwyrain yr orsaf drenau. Mae modd cael mynediad i Barc Busnes Hen Lofa'r Navigation drwy groesi'r bont dros yr afon.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Priffyrdd: "Mae'r Cyngor wedi creu 11 lle parcio newydd yng Ngorsaf Drenau Abercynon er mwyn annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd, yn lleihau amser teithio preswylwyr ac yn well i'r amgylchedd.

"Ym mis Medi, cytunodd y Cabinet i symud ymlaen â Rhaglen Parcio a Theithio'r Cyngor mewn 10 gorsaf drenau yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r cynllun yn creu mwy na 600 o leoedd parcio newydd. Bydd Gorsaf Drenau Abercynon yn elwa o'r Rhaglen yn y dyfodol a bydd y lleoedd parcio ychwanegol yma'n cwrdd â'r galw yn yr ardal.

"Yn ogystal â'r Rhaglen yma, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu rhagor o leoedd parcio yng Ngorsaf Drenau Pont-y-clun ac i gyflawni ail ran Cynllun Parcio a Theithio'r Porth yn dilyn llwyddiant rhan 1.

"Y cyllid gwerth £25,000 ar gyfer Abercynon yw'r buddsoddiad diweddaraf mewn Cynlluniau Parcio a Theithio ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn unwaith eto'n dangos bod y Cyngor yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau buddsoddiad allanol ar gyfer cynlluniau'r priffyrdd, ble'n bosib.

Wedi ei bostio ar 07/12/2017