Skip to main content

Dathlu ein Rhieni Maeth

Mae dynion a menywod yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi agor eu cartrefi, eu teuluoedd a'u calonnau i blant a phobl ifanc sydd eu hangen fwyaf wedi eu gwobrwyo am eu hymrwymiad o 120+ mlynedd i ofal maeth.

Bob blwyddyn, mae Maethu RhCT yn cynnal cinio gwerthfawrogiad i ddweud "diolch" i bob un o'r rhieni maeth sy'n rhoi cariad a chefnogaeth i blant a phobl ifanc nad ydyn nhw, heb fod ar fai, yn gallu byw gyda'u rhieni geni.

Mae'r cinio gwerthfawrogiad yn dathlu ymrwymiad rhieni maeth a'r ffordd broffesiynol a thosturiol y maen nhw'n helpu i fagu'r plant mwyaf agored i niwed yn y fwrdeistref sirol.

Mae hefyd yn nodi cerrig milltir maethu, fel y blynyddoedd y maen nhw wedi gwasanaethu a'r cymwysterau y maen nhw wedi'u cyflawni.

Eleni, rhoddon ni wobrau i'r canlynol am eu gwasanaeth hir:

  • Keith a Belinda Eynon, sydd wedi bod yn rhieni maeth am 15 mlynedd.
  • Heather a John Ennis, sydd wedi bod yn maethu am 20 mlynedd.
  • Tracey Bristow, sydd wedi bod yn maethu am 15 mlynedd.
  • Tracy a Lee Grenter, sydd wedi maethu am 15 mlynedd.
  • Lynda a Kelvin Coomber, sydd wedi bod yn maethu am 10 mlynedd.
  • Tracey Jenkins, sydd wedi bod yn maethu am 10 mlynedd.
  • Diane a Christopher Price, sydd wedi bod yn maethu am 10 mlynedd.
  • Karen a Paul Clarke, sydd wedi bod yn maethu am 10 mlynedd.
  • Christine Turner ac Anthony Miles, sydd wedi bod yn maethu am 10 mlynedd.
  • Audra Williams, sydd wedi bod yn maethu am 10 mlynedd.
  • Dean Evans a Dawn Morris, sydd wedi bod yn maethu am 15 mlynedd.

Cyflwynodd y Cyng. Tina Leyshon, Dirprwy Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Plant a Phobl Ifanc, wobrau am wasanaeth hir yn ystod y cinio.

Meddai: "Mae yna fwy na 600 o blant, rhwng 0 a 18 oed, yn Rhondda Cynon Taf sy'n dibynnu ar rieni maeth i roi'r diogelwch, y gefnogaeth a'r cariad sydd eu hangen arnyn nhw.

"Mae rhieni maeth Maethu RhCT yn dod o bob math o gefndiroedd. Rydych chi sydd yma heddiw, rhwng dim ond 21 oed a'ch saithdegau hwyr, yn brawf o hynny.

"Mae rhai o'n rhieni maeth yn briod, nid yw rhai ohonyn nhw. Mae rhai ohonyn nhw yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, nid yw rhai ohonynt. Mae rhai yn hoyw, mae rhai yn syth. Ond maen nhw i gyd yn rhannu ymrwymiad di-ildio i'r plant sydd eu hangen a'r gallu, amynedd a'r proffesiynoldeb i garu a chefnogi'r plant hynny mor hir ag y mae eu hangen.

"Diolch iddyn nhw mae plant yn cael eu haduno'n llwyddiannus gyda'u teuluoedd, yn cael eu magu i fod yn oedolion ifanc annibynnol neu'n barod ar gyfer bywydau newydd gyda theuluoedd mabwysiadol newydd.

"Mae'n debyg mai dyma un o'r rolau mwyaf heriol y gallwch ei chyflawni, ond hefyd un o'r rhai mwyaf gwerth chweil. Diolch i bawb, am yr hyn yr ydych wedi'i wneud ac yn parhau i wneud. "

Roedd cinio gwerthfawrogiad Maethu RhCT 2017 hefyd yn cynnal lansiad gwobr newydd fawreddog, a fydd yn cael ei chyflwyno i riant neu rieni maeth rhagorol bob blwyddyn.

Cafodd y wobr ei sefydlu mewn partneriaeth â chyn-riant maeth Maethu RhCT, Ken Mason, ac er anrhydedd iddo. Bydd yn cael ei chyflwyno i riant neu rieni maeth a enwebwyd gan eu cyd-rieni maeth a'r Tîm Cymorth Maethu.

Mae Ken a'i wraig, Yvonne, wedi meithrin ugeiniau o blant yn ystod eu 40 mlynedd fel rhieni maeth ac maen nhw'n cael eu hystyried yn ysbrydoliaeth ac esiampl dda i'r nifer o rieni maeth eraill sydd wedi eu dilyn ac wedi elwa o'u gwybodaeth, eu cyngor a'u cefnogaeth.

Yn ogystal â bod yn rhiant maeth rhagorol, roedd Ken yn fentor ac yn darparu hyfforddiant Sgiliau ar Gyfer Maethu a hyfforddiant cynefino i rieni maeth newydd posibl. Cafodd ei weld yn aml hefyd mewn digwyddiadau i annog mwy o bobl i ystyried bod yn rhieni maeth.

Ers ei ymddeoliad ef ac Yvonne yn ystod yr haf, mae Ken wedi cael problemau iechyd a bu'n gweithio gyda'r Garfan Cymorth Maethu i greu'r wobr, a dywedodd ei fod yn gwobrwyo ac yn cymeradwyo nodweddion hanfodol rhieni maeth llwyddiannus - amynedd, proffesiynoldeb a'r gallu i ganolbwyntio ar anghenion y plentyn.

Dewisodd Ken dderbynwyr cyntaf erioed gwobr Ken Mason am Gyfraniad Eithriadol i Ofal Maeth - Pam a Rob Dorrington o'r Rhondda.

Mae Pam a Rob wedi maethu dros 70 o blant a phobl ifanc yn eu 30 mlynedd ym Maethu RhCT ac wedi cael eu cydnabod am eu gwerthoedd teuluol "halen y Ddaear", eu proffesiynoldeb wrth weithio gydag eraill, fel athrawon, cwnselwyr a gweithwyr cymdeithasol, er budd plentyn a'u hymrwymiad diysgog i anghenion y rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.

Mae ein rhieni maeth Maethu RhCT yn dod o bob math o gefndiroedd. Y cyfan yr ydym yn gofyn amdano yw eich bod o leiaf 21 mlwydd oed ac mae gennych ystafell sbâr. I gael gwybod rhagor am faethu, ffoniwch 01443 341122 neu ewch i  www.fosteringrct.co.uk am eich pecyn gwybodaeth am ddim.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chwrdd â'n rhieni maeth yn  www.facebook.com/FosteringRCT

 

 

 

Wedi ei bostio ar 22/12/17