Skip to main content

Dewis Rhys ar gyfer Gemau'r Gymanwlad

Mae Rhys Jones o Rondda Cynon Taf ymysg y cyntaf i gael ei enwi yn Nhîm Cymru cyn Gemau'r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia. 

Bydd Rhys, o Gwm Clydach, yn cynrychioli Cymru yn y ras 100m i ddynion (T37), ynghyd â phara-athletwyr eraill o Gymru, James Ledger a Morgan Jones, sy'n cystadlu yn y T12 a T47 yn y drefn honno. 

Hwn fydd ei ail Gemau'r Gymanwlad, ar ôl cael ei ddewis yn flaenorol ar gyfer Glasgow yn 2014. 

Pan oedd yn ddwy oed, roedd Rhys yn ddifrifol sal gyda llid yr ymenydd feirol. Cafodd ei ddadebru tair gwaith ac roedd mewn coma am 12 diwrnod. Pan ddaeth at ei hun, doedd ganddo ddim symudiad i lawr ochr chwith ei gorff.

Roedd ganddo nam ar ei olwg, epilepsi yn ogystal â phroblemau emosiynol. Gadawyd ef heb unrhyw hyder na hunan-barch.

Ond newidiodd hyn i gyd pan benderfynodd ymuno â Chlwb Pêl Droed RCT Tigers pan oedd yn 14 oed. Yn yr un flwyddyn, ymunodd â chlwb athletau pan sylwodd ei hyfforddwr ar ei gyflymder trawiadol. Cafodd ei gofrestru ar gyfer Gemau Olympaidd Arbennig 2009 ac mae wedi bod yn rhedeg byth ers hynny, gan ennill medalau a thlysau ar y ffordd. 

Meddai Rhys Jones, 23, sydd wrth ei fodd â chael ei ddewis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2008 : "Mae'n gymaint o anrhydedd i gael fy newis ar gyfer fy ail Gemau'r Gymanwlad. Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn yn cynrychioli Cymru mewn Gemau'r Gymanwlad yn y lle cyntaf, ond i'w wneud ddwywaith yn olynol, mae breuddwyd yn wir. 

"Rwyf bob amser yn cynrychioli Rhondda Cynon Taf ym mhopeth rwy'n ei wneud ac rwy'n diolch o galon i Chwaraeon RhCT a Chwaraeon Anabledd Cymru am eu cefnogaeth barhaus ar fy siwrnai."

Gemau'r Gymanwlad yw'r unig ddigwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol sy'n cynnwys rhaglen para-chwaraeon integredig a bydd 2018 yn gweld y rhaglen para-chwaraeon fwyaf yn hanes Gemau'r Gymanwlad  - gyda hyd at 300 o bara-athletwyr a 38 o ddigwyddiadau medalau ar draws saith o chwaraeon. 

Enillodd Rhys, sydd heb adael i'w Barlys yr Ymennydd ei ddal yn ôl, fedal efydd yn y ras sbrintio100m T37 yng Ngemau'r Gymanwlad yn ninas Glasgow yn 2014 a dilynodd hi gyda medal efydd ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd yr IPC  yn Abertawe. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Rhys unwaith eto wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018. 

"Mae Rhys yn llysgennad chwaraeon gwych yn Rhondda Cynon Taf ac mae'n annog ac yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd i gymryd rhan mewn chwaraeon. 

"Casglodd Rhys Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig hefyd yng Ngwobrau Dinasyddion Da'r Cyngor yn gynharach eleni, ar ran ei gyd-athletwyr lleol sydd wedi cynrychioli'r Fwrdeistref Sirol fel rhan o Dîm y DU yn y Gemau Paralympaidd dros y blynyddoedd. 

"Mae ei ddewis ar gyfer Tîm Cymru Gemau'r Gymanwlad 2018 yn wobr am ei waith caled. 

"Rydyn ni'n dymuno pob llwyddiant i Rhys gan ei fod unwaith eto'n chwifio'r faner dros ein Bwrdeistref Sirol ar un o'r lefelau uchaf ar y llwyfan chwaraeon." 

Mae Olivia Breen hefyd wedi cael ei dewis ochr yn ochr â Rhys ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2018 ar gyfer ras 100m menywod T38 a'r naid hir menywod T38. Bydd Olivia, sy'n rhif 1 yn y byd yn y categori T38, yn cystadlu ochr yn ochr â'r neidwyr hir T37, Beverley Jones a Hollie Arnold, sydd hefyd yn un o'r goreuon yn y byd yn ei maes.

Yn flaenorol, dywedodd Rhys: "Cyn i mi gael pêl-droed, doedd gen i ddim. Fy 'Play-station' oedd fy ffrind gorau. Fyddwn i ddim yn edrych ar lygaid unrhyw un a fyddwn i ddim yn siarad â phobl newydd. Newidiodd chwaraeon ddim fy mywyd, rhoddodd fywyd i mi.”

Fel llysgennad chwaraeon Rhondda Cynon Taf, mae Rhys yn ymweld ag ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol yn sôn am ei brofiadau mewn chwaraeon a'r manteision o gymryd rhan mewn chwaraeon.

 Ymunodd â channoedd o bobl ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ym mis Medi, i  groesawu Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Gemau'r Gymanwlad 2018 i'r ardal.

Dywedodd Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau'r Gymanwlad Cymru: "Llongyfarchiadau i'r para-athletwyr sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli Tîm Cymru mewn athletau yng Ngemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur 2018. 

"Maen nhw i gyd wedi ennill canlyniadau gwych ar y llwyfan chwaraeon rhyngwladol, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn gwneud Cymru'n falch unwaith eto'r flwyddyn nesaf. 

"Mae cael eu dewis ar gyfer Tîm Cymru yn dyst i'w hymrwymiad, eu hangerdd a'u hymroddiad a hefyd at gefnogaeth wych eu hyfforddwyr, eu teuluoedd, Chwaraeon Anabledd Cymru ac Athletau Cymru." 

Dywedodd Fiona Reed, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru: "Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wrth ei fodd yn gweld y para-athletwyr hyn yn cael eu cynnwys yn Nhîm Cymru. Bydd Gemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur 2018 yn dangos y nifer uchaf o chwaraeon para-chwaraeon erioed mewn Gemau'r Gymanwlad, ac rwy'n falch iawn o weld tîm cryf o bara-athletwyr wedi'u dewis ar gyfer y tîm athletau." 

 Gyda chymysgedd o Bencampwyr y Byd a Phencampwyr Paralympaidd yn ogystal ag athletwyr sydd newydd eu canfod, mae'n dangos y cryfder sydd gennym yma yng Nghymru mewn datblygu para-athletwyr." 

Dywedodd Scott Simpson, Pennaeth Hyfforddi Athletau Cymru: "Mae sefydliad Athletau Cymru wrth ei fodd gyda'r dewis o chwe athletwr para-chwaraeon yn y don gyntaf hon o gyhoeddiadau Tîm Cymru. 

"Mae yna gyfoeth o brofiad yn y grŵp hwn, gyda phedwar ohonyn nhw wedi cystadlu'n flaenorol mewn gemau aml-chwaraeon a dau ohonyn nhw wedi cyflawni medalau ar lwyfan y byd. 

"Mae hyn, ynghyd ag ieuenctid rhywfaint o'r dalent sbrintio, yn cynnig cyfuniad cyffrous o brofiad a fydd yn sicr yn cyflwyno rhai perfformiadau a chanlyniadau gwych yn yr Arfordir Aur."

Wedi ei bostio ar 13/12/2017