Skip to main content

Swyddog Gorfodi am fynd i'r afael â materion lleol yn Ffynnon Taf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gweithio yn agos gyda Chyngor Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw er mwyn darparu swyddog gorfodi newydd i fynd i'r afael â materion yn yr ardal leol.

Dechreuodd y bartneriaeth pan gysylltodd y Cynghorau Cymuned â'r Awdurdod Lleol ym mis Mehefin er mwyn trafod problemau fel gollwng sbwriel, baeddu gan gŵn, a materion parcio, er enghraifft. Awgrymodd gyflwyno swyddog gorfodi parhaol i'r ardal, i gael ei ariannu yn gyfan gwbl gan y Cyngor Cymuned.

Bu Cyngor Rhondda Cynon Taf a'r Cyngor Cymuned yn gweithio gyda'i gilydd dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac maen nhw wedi cyhoeddi bellach y bydd y swyddog newydd yn dechrau yn Ffynnon Taf yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr. Bydd y swyddog yn parhau i wneud hynny am un diwrnod yr wythnos dros gyfnod cychwynnol o 12 mis.

Baeddu gan gŵn yw un o'r materion y cafwyd sôn ei fod yn broblem sylweddol yn Ffynnon Taf. Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cymryd camau llym yn erbyn hyn ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf, drwy'i raglen Bant â'r Baw!

Mae'r ymgyrch yn hyrwyddo rheolau newydd a llymach yn erbyn baeddu gan gŵn. Daeth y rheiny i rym ar 1af Hydref, yn gwahardd cŵn o caeau a meysydd chwaraeon wedi'u marcio, ysgolion, a meysydd a iardiau chwarae plant. Yn y cyfamser, mae rhagor o Swyddogion Gorfodi yn patrolio strydoedd, parciau, a chefn gwlad bellach. Hyd yn hyn, maen nhe wedi dyroddi cosbau ariannol trymach, o £100 yr un, i fwy na 50 o berchnogion cŵn anghyfrifol.

"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf," meddai Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr y Priffyrdd a Gwasanaethau Gofal Strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf “a'r Cyngor Cymuned wedi gweithio'n agos â'i gilydd i ddarparu swyddog gorfodi a fydd yn patrolio Ffynnon Taf a thargedu'r rheiny sy'n gyfrifol am gollwng sbwriel, baeddu gan gŵn, a pharcio gwael.

“Bydd y swyddog newydd yn dechrau gweithio ym mis Ionawr, am gyfnod cychwynnol o un flwyddyn. Y Cyngor Cymuned sydd wedi ariannu hyn, er budd y gymuned leol sy'n dymuno gweld datrys y broblem yn eu hardal.

“Rydym ni eisoes wedi gweld fod cynnydd patrolio yn gwneud gwahaniaeth wrth fynd i'r afael â baeddu gan gŵn ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf. Gobeithiwn weld gwneud yr un gwahaniaeth ar gyfer ystod ehangach o faterion yn Ffynnon Taf. Yn ystod mis Ionawr, bydd y swyddog newydd yn cwrdd ag Aelodau o'r Cynghorau Cymuned, er mwyn i'r rheiny gael cyfle union natur y problemau y mae angen eu targedu yn yr ardal.”

"Mae'r Cyngor Cymuned yn gyffro i gyd o feddwl fod modd iddynt ariannu swyddog gorfodi," ychwanegodd Emma Price, Clerc Cyngor Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw, "Hwn fydd yn mynd i'r afael â materion parhaus yn Ffynnon Taf a Nantgarw.

"Rydym ni'n hyderus y bydd yr effaith ar y gymuned, ac rydym ni wrth ein bodd yn cael gweithio ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf er mwyn ymladd yn erbyn y problemau.”

Wedi ei bostio ar 13/12/17