Skip to main content

Bwriad i eithrio'r rheiny sy'n gadael gofal o dalu Treth y Cyngor

Cyngor Rhondda Cynon Taf fyddai'r un cyntaf yng Nghymru i ystyried eithrio pobl sy'n gadael gofal, hyd at 25 oed, o dalu Treth y Cyngor.

Fe gymerodd Cynghorau Caerdydd a Thorfaen benderfyniadau tebyg fis diwethaf i eithrio pobl hyd at 21 oed sy'n gadael gofal.

Bydd adroddiad gerbron Cabinet y Cyngor yr wythnos nesaf yn argymell gwneud hyn  yng ngoleuni adroddiadau ac ymgyrchoedd yn ddiweddar, yn arbennig o du Cymdeithas y Plant.  Mae'r rheiny wedi pennu llu o anfanteision a ddaw i ran y bobl sy'n gadael gofal yn unig, a'r perygl mewn perthynas â dyled Treth y Cyngor.

Mae'r cynnig hefyd wedi denu cefnogaeth Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, sy'n cyfeirio at yr angen am ystyried effaith Treth y Cyngor ar y rheiny sy'n gadael gofal yn ei hadroddiad 'Breuddwydion Cudd'.

Dywedodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Mark Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol: "Rydyn ni'n cydnabod y prif sylwadau bod cyfnod pontio pobl ifainc o fyd gofal i fyd yr oedolyn yn un anodd iawn, a bod trafod arian am y tro cyntaf heb gymorth teulu yn gadael i'r rheiny sy'n gadael gofal mewn perygl dybryd o fynd i ddyled.

“Byddai'r penderfyniad yma'n tynnu cyfrifoldeb oddi ar ysgwyddau pobl ifainc sy'n gadael gofal, sy'n ceisio byw bywyd annibynnol am y tro cyntaf.

"Pe bai hyn yn cael ei gytuno, Rhondda Cynon Taf fydd yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i estyn y ddarpariaeth yma i bobl 25 oed – dyma'r oedran y mae gan y Cyngor gyfrifoldeb, yntau'n rhiant corfforaethol.

"Mae'r rheiny sy'n gadael gofal yr Awdurdod Lleol ymhlith y grwpiau mwyaf bregus/agored i niwed yn ein cymuned.

"Fe ddylai'r Cyngor, yn rhinwedd bod yn rhiant corfforaethol, anelu at gadw pobl ifainc yn ddiogel a gwella'u cyfleoedd bywyd, a byddai'r bwriad yma, a bwrw bod cymeradwyaeth iddo, yn cyfrannu at y nod.

Dywedodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Christina Leyshon, Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc: "Mae cyfrifoldeb ar y Cyngor, yn Rhiant Corfforaethol, i fod yn gefn i'r bobl ifainc yn ei ofal.

“Mae bod yn rhiant corfforaethol yn ddyletswydd statudol i'r Cyngor. Yr egwyddor sylfaenol yw bydd pob Awdurdod Lleol yn anelu at yr un deilliannau ar gyfer pobl ifainc mewn gofal ag y byddai pob rhiant da eu heisiau ar gyfer eu plant nhw.

“Drwy gynlluniau Camu i'r Cyfeiriad Cywir a GofaliWaith, mae'r Cyngor yn rhoi cymorth i blant dan ei ofal, a'r rheiny sy'n gadael gofal, i fanteisio ar hyfforddiant a gwaith. Byddai'r cynnig yma yn ychwanegu at y cymorth ar gyfer y bobl ifainc hynny sydd wedi gadael gofal er mwyn byw bywyd annibynnol, a hwythau'n oedolion, drwy roi gostyngiad yn ôl disgresiwn iddyn nhw yn eu Treth y Cyngor.

“Mae Cymdeithas y Plant wedi cyflwyno dadl gref ac achos egwyddorol o blaid gwneud hyn, sydd hefyd yn cael cefnogaeth Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland. Pe bai'r Cabinet yn cytuno, byddai'n hagwedd ni yn cynorthwyo ac yn cefnogi pobl ifainc sy'n gadael gofal i gymryd y camau cyntaf ar eu pennau eu hunain tuag at fywyd oedolion.”

Bydd y Cabinet yn trafod yr adroddiad ddydd Mawrth, 19 Rhagfyr.  Ynddo, yr argymhelliad yw bod y Cyngor, yn rhan o gymorth parhaus i bobl sy'n gadael gofal yn rhinwedd ei swyddogaeth yn Rhiant Corfforaethol, yn arfer ei bwerau dewisol i roi gostyngiad 100% yn ôl disgresiwn yn Nhreth y Cyngor – i bobl 18-25 oed sy'n gadael gofal ac sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol – o 1 Ebrill, 2018.

Mae copi llawn o’r adroddiad ar gael ar-lein www.rctcbc.gov.uk/Cabinet

Wedi ei bostio ar 14/12/17