Skip to main content

Mae Lee yn ôl yn ein Theatrau

Mae Lee Gilbert, perfformiwr o Gymru, wrth ei fodd yn chwarae'r dyn drwg yn rhan o gynhyrchiad Nadoligaidd Cyngor Rhondda Cynon Taf o Aladdin. 

Mae'r sioe yn cael ei pherfformio yn Theatr y Theatr y Colisëwm, Aberdâr tan 10 Rhagfyr ac yna'n mynd i Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci tan Noswyl Nadolig. 

Prynwch docynnau ar gyfer Panto Aladdin ar-lein heddiw  

Mae'r dramodydd ac actor lleol, Frank Vickery, hefyd yn rhan o'r cynhyrchiad. Dyma'i seithfed pantomeim gyda theatrau Rhondda Cynon Taf, bydd e'n chwarae rôl yr Hen Wraig draddodiadol. 

Fyddai panto i'r teulu ddim yn gyflawn heb gymeriad 'drwg' - ac mae Lee Gilbert yn dychwelyd i'r theatrau am y drydedd flwyddyn yn olynol i chwarae'r rôl yma.

Mae 2017 wedi bod yn flwyddyn brysur i Lee. Lansiodd ei albwm newydd All of Me, a oedd yn Albwm yr Wythnos ar BBC Radio Wales. Hefyd, lansiodd sioe 'That's Life', a ddaeth i Rondda Cynon Taf, yn ogystal â theithio o gwmpas y DU ac Ewrop. 

Mae newydd orffen taith Cymru o'r ddrama ddigrif tu hwnt One Man, Two Guvnors ar gyfer Black RAT Productions.

Meddai Lee Gilbert, sy'n chwarae rhan Abanazar: "Mae'r flwyddyn yma wedi bod yn wych, ac mae'r Nadolig yn gyfnod prysur i fi hefyd. Rydw i wrth fy modd yn dychwelyd i Theatrau Rhondda Cynon Taf er mwyn chwarae rôl y dyn drwg yn rhan o bantomeim Aladdin.

"Mae Abanazar yn ddyn drwg iawn, a bydd yn gwneud unrhyw beth i gael ei ffordd ei hun. Mae'n bleser cael cerdded allan ar y llwyfan i chlywed y gynulleidfa yn gweiddi 'bw! bw!'. 

"Mae Aladdin yn bantomeim eiconig ac rydyn ni'n mwynhau ein hamser ni yn Theatrau RhCT bob flwyddyn. Mae ymateb y gynulleidfa'n wych, rydw i wrth fy modd yno." 

Bydd Maxwell James yn chwarae rôl y dihiryn annwyl, Aladdin, bydd Laura Clements yn chwarae rôl y Dywysoges Jasmine. Bydd y sioe hefyd yn cynnwys Ryan Owen fel Tommy'r gath, Deiniol Wyn Rees fel Genie'r Lamp, Tamara Brabon fel Genie'r Fodrwy, Bridie Smith fel Plismon Ping ac Aled Davies fel Plismon Pong. 

Aladdin: Prynwch docynnau ar-lein heddiw 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae adeg y Nadolig yn gyfnod arbennig o'r flwyddyn, a does dim byd gwell na mynd â'r teulu i weld pantomeim, un o draddodiadau hynaf yn hanes y theatr. 

"Dyma gynhyrchiad arbennig sy'n haeddu cefnogaeth y gymuned. Mae gyda ni gast talentog a charfan arbennig o weithwyr tu ôl i'r llen sy'n dod â'r sioe i'n llwyfannau lleol." 

Yn ystod y gyfres o berfformiadau yn y ddwy theatr, bydd ‘perfformiadau hamddenol’ Aladdin ar gael ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu, a'u teuluoedd a'u cynhalwyr. 

Bydd Aladdin yn cael ei berfformio yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, tan 10 Rhagfyr ac yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, rhwng 16 a 24 Rhagfyr. 

Mae tocynnau ar werth nawr. Oedolyn £15.50; Gostyngiad £12.50; Tocyn teulu £48; Aelod o grŵp ysgol £9. Mae amseroedd y perfformiadau yn amrywio.

Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu ewch i www.rct-theatres.co.uk

 

Wedi ei bostio ar 08/12/2017