Skip to main content

Cwblhau Llwybr Cymunedol Llantrisant

Bellach, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cwblhau gwaith ar Lwybr Cymunedol Llantrisant, sydd wedi darparu llwybr troed beicio a cherdded ar y cyd newydd drwy Donysguboriau.

Cwblhawyd y gwaith ddydd Gwener, 22ain Rhagfyr. Mae'r llwybr troed newydd, sydd bron filltir o hyd, ar agor bellach i breswylwyr ac ymwelwyr ei ddefnyddio.

Heol y Bontfaen yw pwynt mwyaf gorllewinol y Llwybr. Mae hyn yn rhedeg heibio i gefn Parc Manwerthu Bro Morgannwg, hyd at Westfield Court yn y pen dwyreiniol, yn gyfochrog â ffordd yr A473 ac yn rhychwantu wardiau Tref Llantrisant a Thonysguboriau.

Yn ystod yr haf, ymgymerwyd â gwaith sylweddol i glirio llwybr chwe metr yn dilyn yn fras yr hen reilffordd, i symud i ffwrdd yr hen gledrau rheilffordd a'r llystyfiant. Daeth gwaith adeiladu'r llwybr cymunedol tri metr o led wedyn ym mis Hydref, ac roedd y cam hwn yn cynnwys draeniad, arwyddion, ffensys, a gwaith cysylltiedig hefyd.

Hwyluswyd y cynllun yn dilyn buddsoddiad o £375,000, a arianwyd gan Llywodraeth Cymru yn bennaf. Er bod gwaith ar y prif lwybr wedi'i gwblhau bellach, mae'r Cyngor yn bwriadu darparu pwyntiau mynediad ychwanegol i'r llwybr cymunedol yn y Flwyddyn Newydd, yn ogystal ag ymgymryd â gwaith gorffen.

"Bellach, mae'r Cyngor wedi cwblhau'r llwybr troed beicio a cherdded ar y cyd newydd yn Nhonysguboriau," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd "Rwy'n siŵr y bydd y cymunedau yn yr ardaloedd o gwmpas yn ei groesawu."

"Cwblhawyd y gwaith mewn dau brif gam. Clirio'r hen gledrau rheilffordd a'r llystyfiant oedd y cam cyntaf, er mwyn creu lle ar gyfer gosod y llwybr cymunedol. Daeth y cam adeiladu wedyn ym mis Hydref, ac mae hwnnw wedi'i gwblhau bellach yn brydlon cyn y Nadolig.

“Mae'r Cyngor wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyllido'r prosiect hwn. Dyma ddangos unwaith eto fod y Cyngor yn chwilio am fuddsoddi o'r tu allan, lle bo modd, er mwyn cyflawni cynlluniau gwella. Mae hyn yn ychwanegol at gyllid sylweddol i brosiectau drwy raglen BuddsoddadiRhCT £200miliwn ehangach y Cyngor, lle mae Seilwaith Priffyrdd yn flaenoriaeth allweddol.

“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella llwybrau cerdded a beicio Rhondda Cynon Taf hefyd. Cyflwynodd Fap Rhwydwaith Integredig drafft i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, ar ôl i'r Cabinet ei gymeradwyo. Mae'r map yn dangos y llwybrau newydd i gerddwyr a beicwyr sydd i'w darparu ymhen y 15 mlynedd nesaf.”

Wedi ei bostio ar 22/12/17