Skip to main content

Mwy na 50 dirwy wedi cael eu rhoi i berchenogion cŵn anghyfrifol

Ers i Gyngor Rhondda Cynon Taf gyflwyno mesurau rheoli baw cŵn mwy llym, mae'r Cyngor wedi rhoi mwy na 50 dirwy i berchenogion cŵn anghyfrifol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Daeth Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) newydd i rym ar 1 Hydref. Pwrpas y Gorchymyn oedd cyflwyno mesurau newydd y mae rhaid i berchenogion cŵn eu dilyn i sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn lân. Bydd perchenogion cŵn sydd ddim yn cydymffurfio â'r mesurau newydd yn derbyn dirwy mwy o £100. Baw cŵn yw un o'r materion sy'n dod i'r wyneb yn rheolaidd, a chafodd y mesurau newydd eu cyflwyno gan y Cyngor yn dilyn ymgynghoriad hir gyda phreswylwyr yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae'r mesurau rheoli, a gafodd eu hyrwyddo gan ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da chi! y Cyngor, wedi derbyn cefnogaeth Colin Smith o Bont-y-clun. Yn 1979, torrodd Colin ei goes mewn gêm rygbi – roedd rhaid iddo gael ei goes wedi'i thorri i ffwrdd ar ôl dal haint o faw cŵn ar y cae chwarae.

Mae'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn nodi:

  • Rhaid i berchenogion cŵn godi baw cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
  • Rhaid i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ar bob adeg.
  • Rhaid i berchenogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd Swyddog Awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
  • Caiff cŵn eu gwahardd o holl ysgolion, mannau chwarae i blant, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw.
  • Rhaid cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg ym mynwentydd y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw.

Cafodd gorchymyn arall, sy'n unigryw i Barc Aberdâr, hefyd ei gyflwyno ar 1 Hydref 2017. Mae'r gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i gŵn gael eu cadw ar dennyn ar bob adeg yn y parc.

Mae rhagor o swyddogion gorfodi wedi bod yn y strydoedd, parciau a chefn gwlad ers 1 Hydref. Yn ystod yr 20 diwrnod cyntaf, roedd rhaid iddyn nhw godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r rheolau newydd er mwyn sicrhau bod perchenogion cŵn yn deall yr hyn y mae disgwyl iddyn nhw'i wneud cyn rhoi dirwy.

Hyd at 5 Rhagfyr 2017, mae'r swyddogion wedi rhoi cyfanswm o 53 Hysbysiad Cosb Benodedig (FPN) i berchenogion cŵn anghyfrifol, am sawl trosedd gan gynnwys baw cŵn, cŵn mewn mannau gwaharddedig a chŵn sydd ddim ar dennyn ym Mharc Aberdâr.

Meddai Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Priffyrdd a Gofal y Strydoedd ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Cafodd y mesurau rheoli baw cŵn newydd a'r ddirwy uwch o £100 eu cyflwyno ar 1 Hydref gan y Cyngor ar ôl i nifer fawr o drigolion fynegi pryderon yn ystod ymgynghoriad helaeth yn gynharach yn y flwyddyn.

"Mae'r Cyngor bellach wedi rhoi mwy na 50 dirwy i berchenogion cŵn anghyfrifol ledled Rhondda Cynon Taf, mae hyn yn dyst i agwedd dim goddefgarwch y Cyngor. Byddai'n well gan y Cyngor weld bod perchenogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn glanhau baw cŵn, osgoi mannau gwaharddedig gan gynnwys caeau chwaraeon wedi'u marcio a mannau chwarae i blant, yn hytrach na rhoi dirwyon.

"Mae dau fis wedi mynd heibio ers cyflwyno'r mesurau newydd yma, ac mae'r mesurau wedi cael eu hyrwyddo'n glir drwy ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da chi! y Cyngor. Does dim esgus gan berchenogion am ymddwyn mewn ffordd anghyfrifol.

"Eleni, mae'r Cyngor wedi gosod degau o finiau coch newydd ar gyfer baw cŵn er mwyn annog perchenogion cŵn i ymddwyn mewn modd cyfrifol, sicrhau bod ein strydoedd, parciau a chefn gwlad yn cadw'n lân a sicrhau bod modd i ymwelwyr fwynhau'r ardal."

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â mesurau baw cŵn newydd ac ymgyrch Bant â'r Baw! ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/CY/SortITOut.aspxt.

Wedi ei bostio ar 06/12/17