Skip to main content

Cyfleuster athletau newydd ar gyfer Aberdâr yn dilyn dymchwel y ganolfan hamdden

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf bellach wedi dymchwel yr hen Ganolfan Chwaraeon Michael Sobell yn Aberdâr, a fydd yn gwneud lle ar gyfer trac athletau £3 miliwn.

Bydd y trac athletau newydd yn cwblhau'r buddsoddiad sylweddol ar y safle sydd eisoes wedi gweld adeiladu Ysgol Gymunedol Aberdâr, canolfan hamdden, cae chwaraeon 3G a pharc sglefrfyrddio - gan drawsnewid darpariaeth addysg a chyfleusterau hamdden yn yr ardal fel rhan o fuddsoddiad o £67 miliwn.

Er bod yr ysgol a'r cyfleusterau hamdden newydd yn parhau i fod o fudd i'r gymuned, bu'n rhaid gohirio camau olaf y datblygiad ehangach oherwydd presenoldeb sylweddol o asbestos yn yr hen ganolfan chwaraeon. Roedd yn angenrheidiol i ni ddymchwel yr adeilad, a fydd yn gwneud lle i'r trac athletau, un bric ar y tro.

Mae wedi bod yn un o'r cynlluniau symud asbestos a dymchwel mwyaf cymhleth yn y wlad, sydd ynddo'i hun yn costio £17m. Ymgynghorodd y cyngor â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch bob cam o'r ffordd a chafodd yr asbestos a'i waredu'n ddiogel a heb unrhyw broblemau - sef y flaenoriaeth fwyaf i'r Cyngor gyda chyfleusterau addysg a hamdden yn parhau i weithredu ar yr un safle.

Bellach, rydyn ni wedi cychwyn ar y gwaith o ddarparu cyfleusterau athletau o'r radd flaenaf yn yr Ynys. Byddan nhw'n cefnogi digwyddiadau trac a maes, tra byddwn ni'n adeiladu stondin gwylio 172-sedd ac ystafelloedd newid newydd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Bydd y gymuned leol, rwy'n siŵr, yn croesawu'r newyddion bod gwaith dymchwel cymhleth yr hen ganolfan chwaraeon yn Aberdâr bellach wedi'i gwblhau gan y Cyngor.

"Pan ddechreuodd y broses ddymchwel, fe wnaeth contractwr y Cyngor ddarganfod presenoldeb asbestos. Arweiniodd hyn at yr her ddymchwel fwyaf cymhleth y mae'r Cyngor erioed wedi ei hwynebu. Roedd angen proses drylwyr 'un bric ar y tro' er mwyn sicrhau diogelwch, sef blaenoriaeth fwya'r Cyngor. 

"Cafodd y broses ei chwblhau'n ddiogel heb unrhyw amhariad ar safle 'byw' Ynys, sydd wedi cael ei gadw'n agored trwy'r dymchwel. Nid yw'r ysgol newydd, y ganolfan hamdden, y cae chwaraeon 3G, y caeau chwaraeon a'r maes parcio wedi dioddef tarfu.

"Ar ôl dechrau, roedd y Cyngor wedi ymrwymo i weld y broses hon hyd at y diwedd. Erbyn hyn rydyn ni mewn sefyllfa lle mae adeiladu'r cyfleuster athletau'n mynd rhagddo'n dda fel rhan o'r buddsoddiad ehangach o £67 miliwn - a fydd yn gadael etifeddiaeth i genedlaethau'r dyfodol yn Aberdâr a Chwm Cynon.

"Mae darpariaeth Addysg a Hamdden yn feysydd allweddol yn y rhaglen #buddsoddiadRhCT £200m, y mae Cwm Cynon wedi elwa'n sylweddol ohoni. Mae addysg gynradd wedi cael ei thrawsnewid yn Abercynon, Cwm-bach ac Ynys-boeth gydag ysgolion cynradd cymunedol newydd. Yn y cyfamser, rydyn ni wedi buddsoddi'n sylweddol yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon, yn ogystal ag mewn caeau chwaraeon 3G newydd rydyn ni wedi'u hadeiladu yn Aberpennar, ac wedi cynllunio ar gyfer Abercynon, gan roi cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon ym mhob tywydd."

Wedi ei bostio ar 22/12/17