Skip to main content

Sefyll eich Tir

 

Mae Rhondda Cynon Taf, bwrdeistref sirol cyntaf Cymru i arwyddo'i lw pwysig i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben, wedi dod ynghyd i ddathlu Diwrnod y Rhuban Wen.

Daeth asiantaethau partner, gan gynnwys Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cymorth i Fenywod RhCT a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, ynghyd ddydd Gwener 25 Tachwedd.

Arweiniodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Llesiant, gynrychiolwyr o asiantaethau partner, goroeswyr trais domestig a thrigolion a phlant lleol yn yr achlysur ym Mhontypridd.

Cafodd stondinau gwybodaeth, wedi'u rheoli gan Ymgynghorwyr Trais Domestig Annibynnol arbenigol y Ganolfan Oasis ac ymgyrch Drive sy'n gweithio gyda'r sawl sy'n cyflawni troseddau trais domestig, eu gosod yng nghanol y dref.

Roedd gan bobl gyfle i gael rhagor o wybodaeth ac arwyddo Llw Diwrnod y Rhuban Wen, gan ymrwymo y byddan nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i godi ymwybyddiaeth a pheidio ag anwybyddu trais domestig.

Symudodd yr achlysuron ymlaen i Barc Coffa Ynysangharad lle plannodd gwirfoddolwyr gennin pedr i greu siâp y rhuban wen. Wrth i'r blodau flodeuo yn y Gwanwyn, byddan nhw'n atgoffa pobl o'r ymgyrch bwysig a'r angen i wrthwynebu trais domestig – gan ofyn am gymorth a chefnogaeth os oes angen.

Mae Rhyanne Rowlands yn arwain ymgyrch ddiweddaraf Cymorth i Fenywod RhCT, Athena, sy'n gweithio gyda menywod dros 50 oed sydd wedi cael eu heffeithio gan drais domestig. Mae gan y grŵp oedran penodol yma anghenion gwahanol i fenywod ifancach a bydden nhw'n elwa ar y gwasanaeth unigryw wedi'i gynnig gan Athena.

Mae modd dod o hyd i amrywiaeth eang o wasanaethau ar gyfer yr unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan drais domestig – dynion, menywod, perthnasau a gweithwyr proffesiynol – yng Nghanolfan Oasis ym Mhontypridd (ar bwys Eglwys y Santes Catrin).

Dyma'r ganolfan gyntaf o'r fath yng Nghymru sydd wedi dod â'r Cyngor, yr heddlu a'r sector gwirfoddol ynghyd mewn un adeilad agored i sicrhau ymateb effeithiol ac effeithlon i anghenion gwahanol yr unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan drais domestig.

Meddai'r Cynghorydd Lewis: "Mae ein gwaith i amddiffyn a chefnogi'r unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan drais domestig yn cael ei gyflawni yn y Fwrdeistref Sirol bob dydd. Rydyn ni'n falch o'r ystod eang o wasanaethau a mentrau rydyn ni'n eu cynnig i sicrhau bod yr unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan drais domestig, gan gynnwys yr unigolion sy'n cyflawni'r troseddau a goroeswyr, yn ogystal â phlant a'u teulu estynedig, yn cael y cymorth a gwasanaethau maen nhw'u hangen.

"Mae'r Ganolfan Oasis yn cydlynu ymdrechion ystod o asiantaethau partner. Mae hyn yn golygu bod modd i'r unigolion gael y cymorth maen nhw'i angen o dan un to, yn lle cael eu hatgyfeirio o sefydliad i sefydliad neu o linell frys i linell frys.

"Mae'n gydymdrech lle mae'r asiantaethau i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu ac mae pobl yn cael eu hamddiffyn. Mae Diwrnod y Rhuban Wen yn gyfle i ni i gyd ddod ynghyd i ddathlu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud a'n hatgoffa ni o'r holl waith sydd angen cael ei wneud."

Mae Cymorth i Fenywod RhCT yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor RhCT er mwyn sicrhau dull i ddarparu gwasanaethau yn y sir ar gyfer menywod a phlant sydd wedi'u heffeithio gan drais domestig. Mae'r sefydliad yn darparu'r brif ganolfan alw heibio, estyn allan a sgiliau bywyd sy'n cefnogi dros 100 o atgyfeiriadau bob mis. Mae hefyd yn gweithio gyda'r heddlu i roi cefnogaeth ddilynol i ddioddefwyr yn dilyn ffonio'r heddlu i ddelio â digwyddiad o drais domestig. Mae'r sefydliad hefyd yn cynnig 22 uned o lety mewn argyfwng i fenywod a'u teuluoedd sydd wedi dianc rhag trais domestig ledled y sir a chymorth unigol arbenigol i fenywod sy'n byw gartref. Yn ogystal â hyn, mae'r sefydliad yn rhoi cymorth unigol i blant a phobl ifainc sydd wedi bod yn dyst i drais domestig neu drais rhywiol neu wedi cael eu heffeithio ganddyn nhw.

Meddai Charlie Arthur, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Fenywod RhCT: “Mae'r bartneriaeth rhwng Cymorth i Fenywod RhCT a Chyngor RhCT wedi galluogi gwasanaethau i addasu a thyfu i gwrdd ag anghenion cymhleth teuluoedd sydd angen cymorth. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu a darparu llais cryf dros oroeswyr trais domestig a cham-drin.”

Wedi ei bostio ar 08/12/2017