Skip to main content

Mae staff hael Cyngor Rhondda Cynon Taf

Mae staff hael Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi rhoi fan llawn o fwyd, dillad a phethau ymolchi i'r rhai mwyaf anghenus y Nadolig hwn, fel rhan o'u hymgyrch flynyddol.

Mae'r awdurdod unwaith eto yn cefnogi elusennau lleol Adref a Llamau yn y cyfnod cyn y Nadolig, gyda staff ar draws y Cyngor yn rhoi nwyddau i helpu eraill.

Mae Adref yn cynnal apêl flynyddol am fwyd ac anrhegion i'r rheiny sy'n llai ffodus nag eraill bob blwyddyn. Bydd yr eitemau, gan gynnwys bwyd, siocledi a bisgedi, pethau ymolchi a dillad yn mynd i'r rhai sy'n ddigartref neu sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.

Bydd yr eitemau a gafodd eu rhoi gan staff yn mynd i'r rhai sy'n cael eu cefnogi mewn cartrefi, hosteli ac ar y strydoedd ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr.

Mae Adref wedi bod yn rhoi cymorth i unigolion digartref ar y strydoedd a'r rheiny sydd mewn perygl o golli'u cartrefi am y 25 mlynedd diwethaf. Mae gan yr elusen bedair hostel a dwy siop elusen sy'n ceisio codi arian ac sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd gwaith a chyfle i ddatblygu sgiliau.

Yn ogystal â'i hapêl dros yr ŵyl, mae'r elusen yn parhau i apelio am roddion trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig am fwyd a diod sy ddim yn ddarfodus, pethau ymolchi a dillad.

Mae staff y Cyngor hefyd yn dangos eu cefnogaeth i Llamau, elusen flaenllaw Cymru ar gyfer menywod sy'n agored i niwed a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.

Yn ogystal â chasglu eitemau ac anrhegion ar gyfer rhoddion, mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i hyrwyddo ymgyrch ariannu torfol parhaus Llamau, i godi'r arian sydd ei angen i agor Llinell Gymorth i Bobl Ifanc Digartref, a fydd y cyntaf o'i math yng Nghymru.

Bydd yn cynnig gwasanaethau y tu allan i oriau arferol ac ar y penwythnos ar gyfer pobl ifanc sy'n cael eu hunain yn ddigartref a chyda unman i fynd iddo a neb i droi atyn nhw.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Rydyn ni'n gweithio gydag Adref a Llamau trwy gydol y flwyddyn ac mae eu gwasanaethau yn cyd-fynd yn agos â'n darpariaeth tai a gwasanaethau cymdeithasol, ac yn eu hategu.

"Y llynedd, roedd ein hapêl i staff i roi eitemau mor llwyddiannus, fe benderfynon ni ei redeg eto yn 2017 ac rydyn ni'n falch o allu casglu cymaint o fwyd, pethau ymolchi a dillad, a bydd pob eitem yn mynd i'r bobl sydd eu hangen fwyaf.

 "Diolch yn fawr iawn i'r holl staff sydd wedi cyfrannu at yr apêl ac, unwaith eto, wedi ei wneud yn gymaint o lwyddiant. Hoffwn hefyd anfon cyfarchion yr ŵyl a dymuniadau gorau i'r staff a gwirfoddolwyr yn Adref a Llamau a'r cannoedd o ddynion, menywod a phlant y maen nhw'n eu cefnogi."

 

Wedi ei bostio ar 21/12/2017