Ar ôl tri diwrnod o dywydd garw dros y penwythnos, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwario mwy na £100,000 ar gadw ffyrdd ar agor a sicrhau bod ein trigolion yn ddiogel.
Mae ein gweithwyr wedi bod wrthi bob awr o'r dydd er mwyn cynnal a chadw'r prif rwydweithiau, sy'n ymestyn dros 3,000 milltir. Mae hynny'n cyfateb i daith o Bontypridd i John o'Groats ac yn ôl - DDWYWAITH.
Ers nos Wener:
- Rydyn ni wedi rhoi mwy na 100 o raglenni graeanu ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol
- Rydyn ni wedi defnyddio mwy na 1,250 tunnell o halen ar ein ffyrdd
- Mae'r Cyngor wedi gwario £65K ar waith cynnal a chadw ychwanegol dros y diwrnodau yma, a hynny ar ben y swm rydyn ni'n ei wario ar ddarpariaeth dros y gaeaf yn flynyddol.
Yn ogystal â thrin y ffyrdd, mae carfannau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd y Cyngor wedi bod wrthi'n casglu sbwriel a bagiau ailgylchu lle bo modd gwneud hynny.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan, sydd hefyd yn Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae sicrhau bod ein Bwrdeistref Sirol yn cael ei chynnal a’i chadw yn ystod y gaeaf yn her fawr sy'n galw am lawer o waith cynllunio a threfnu.
"Mae gyda ni garfan alluog ac ymroddgar sy'n gweithio bob awr o'r dydd, drwy gydol yr wythnos, ac ym mhob tywydd, er mwyn ein cadw ni'n ddiogel.
"Dros y dyddiau diwethaf, mae'r Fwrdeistref Sirol wedi wynebu eira, iâ, eirlaw, glaw a chwymp sylweddol o ran y tymheredd. Mae'n anochel y bydd tywydd o'r fath yn tarfu arnon ni. Serch hynny, rydyn ni wedi llwyddo i darfu cyn lleied â phosibl ar bobl a chadw Rhondda Cynon Taf i fynd drwy ymdrechion ein staff ymroddgar.
"Diolch i'n trigolion am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus."
Tywydd Gaeafol - Y Newyddion Diweddaraf https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Newsroom/PressReleases/2017/November/Proactiveplanforiceandsnowonourroadsthiswinter.aspx
Cau Ysgolion https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SchoolsandLearning/Schooltermdatesinsetdaysandemergencies/Emergencyclosures.aspx
Darparu Gwasanaethau yn y Gaeaf https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/ParkingRoadsandTravel/RelatedDocuments/WinterServiceOperationalPlan201718.pdf
Dilynwch gyfrifon Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Facebook a Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am dywydd gaeafol.
Wedi ei bostio ar 11/12/17