Skip to main content

Gofodwr Prosiect Apollo yn Glanio yn Rhondda Cynon Taf

Un o ofodwyr NASA go iawn yw'r Cyrnol Al Worden, a bydd yn glanio yn Rhondda Cynon Taf i'n syfrdanu â'i brofiadau anhygoel yn y gofod. 

Enillodd y Cyrnol Worden le yn 'The Guiness Book of Records' fel y person mwyaf unig erioed. Ond dyma fe â'i draed yn sownd ar y Ddaear unwaith eto, yn barod i rannu gair bach o brofiad gyda ni.

Mae'r Cyngor wrth eu bodd, ar y cyd ag Awyr Dywyll Cymru, yn croesawu'r Cyrnol Al Worden i Theatr y Colisëwm, Aberdâr, ar 9fed Hydref.

Mae Al Worden yn un o'r 24 o bobl sydd wedi hedfan i'r Lleuad, ac o'r saith a gafodd eu dewis yn beilotiaid modiwl rheoli i Brosiect Apollo. Ehedodd Al Worden i'r Lleuad ym mis Gorffennaf 1971 ar daith orchwyl Apollo 15 ochr yn ochr â'r pennaeth,  Dave Scott, a pheilot y modiwl lleuad, Jim Irwin.

EF oedd y cyntaf i gyflawni Gweithgarwch Allgerbydol (GAG) yn y gofod dwfn. (Gweithgawrch gan ofodwr yw hyn y tu allan i long ofod.)

"Dyma gyfle unigryw i ni glywed am anturiaethau'r Cyrnol Al Worden yn y gofod," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden "ac yntau'n beilot modiwl rheoli Apollo 15”.

"Cawn noson ddifyr yn llawn hwyl a hanesion gwefreiddiol am anturiaethau ymhlith y sêr - ac mae'r tocynnau'n gwerthu'n gyflym.

"Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Awyr Dywyll Cymru yn falch o'r cysylltiad cryf sydd wedi gwneud Rhondda Cynon Taf yn un o'r lleoedd gorau yn y Deyrnas Unedig i weld y sêr."

Enillodd y Cyrnol Al Worden le yn  'The Guinness Book of Records' fel y person mwyaf unig erioed. Ar y pryd, roedd ei gymdogion agosaf gryn 2,235 o filltiroedd i ffwrdd.

Al Worden oedd y dyn cyntaf erioed i fynd am dro yn y gofod dwfn. Ei obaith mawr yw ysbrydoli'r to ifanc i rannu'i gariad ef at yr wybren las faith.

Cynhelir 'An Audience with Al Worden' yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, ar Ddydd Llun, 9fed Hydref. Mae tocynnau ar gael am bris £17.50 o'r Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu ar-lein ar www.rct-theatres.co.uk

Wedi ei bostio ar 26/07/2017