Skip to main content

Cynlluniau i leihau aflonyddwch wrth gau Heol Ynyswen

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gorffen y gwaith cynllunio er mwyn cau Heol Ynyswen, a chwblhau gwaith ailwynebu gwerth £70,000.

Bydd y gwaith yn dechrau ar 14 Awst. Er mwyn cwblhau'r gwaith bydd angen cau'r ffordd rhwng ei chyffordd â Pharc Diwydiannol Ynyswen hyd at Crichton Street, Treorci, yn ystod y dydd. Bydd y rhan yma o'r ffordd ar gau rhwng 8am a 5pm hyd at 28 Awst, neu nes bod y gwaith yn cael ei gwblhau.

Bydd modd i gerbydau preswylwyr, y gwasanaethau brys a cherddwyr gael mynediad at Heol Ynyswen ar bob adeg.

Bydd llwybr amgen sy'n mynd trwy Crichton Street a Pharc Diwydiannol Ynyswen yn cael ei ddarparu i fodurwyr ac wedi'i arwyddbostio'n glir.

Fydd safleoedd bws ar bwys Dunraven Terrace ar hyd Heol Ynyswen (sy'n cynnwys Dunraven Terrace, Gorsaf Ynyswen a Siop Payne) ddim ar gael yn ystod y cyfnod yma.  Bydd gwasanaethau bysiau 120, 121 a 130 yn dilyn llwybr amgen drwy Barc Diwydiannol Ynyswen. Bydd arosfannau bws dros dro yn cael eu darparu.

Er mwyn osgoi achosi gormod o aflonyddwch wrth i'r gwaith gael ei gwblhau, byddwn yn gosod cyfyngiadau aros dros dro.  Fydd modurwyr ddim yn gallu aros ar bwys:

  • Heol Parc Diwydiannol Ynyswen ar y ddwy ochr, o'r gyffordd â'r A4061 (Baglan Street) tua'r de am 1.25cilomedr.
  • Rhan o Crichton Street, ar y ddwy ochr, o'r cyfyngiadau aros tua'r de orllewin am 16 metr.
  • O gyffordd Bute Street, Treorci tua'r de-orllewin, â Crichton Street, tua'r de-ddwyrain am 27metr.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Yn gynharach yn y mis, roedd y Cyngor wedi rhagrybuddio'r cyhoedd am waith ailwynebu'r ffordd ar yr A4061. Bydd y gwaith yma'n gwella a diogelu'r ffordd ac yn cael ei gwblhau yn ystod gwyliau'r haf, oherwydd bydd yna llai o draffig.

"Bydd y gwaith yma'n achosi dipyn o aflonyddwch yn lleol, ond mae'r Cyngor yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau nad oes gormod o aflonyddwch yn cael ei achosi. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau rhwng 8am a 5pm - fydd y ffordd ddim ar gau am 24 awr.

"Yn ystod yr oriau yma, bydd modd i gerbydau preswylwyr a'r gwasanaethau brys gael mynediad at Heol Ynyswen ar bob adeg.

"Hoffwn i ddiolch i'r preswylwyr am eu cydweithrediad wrth i ni gwblhau'r gwaith yma."

O fis Awst, bydd rhan fach o Heol Ynyswen, yn agos at Orsaf Tân Treorci. Bydd y rhan yma o'r ffordd yn cael ei reoli gan oleuadau traffig fel bod y Cyngor yn gallu cwblhau gwaith cryfhau ar ran o'r brif ffordd. Bydd y gwaith yma'n para 12 wythnos.

Wedi ei bostio ar 19/07/2017