Skip to main content

Cyngerdd yr Ŵyl Goffa

Cynhaliwyd Cyngerdd blynyddol Gŵyl Goffa Rhondda Cynon Taf yn Theatr y Parc a'r Dâr, er mwyn anrhydeddu ein Lluoedd Arfog ddoe a heddiw. 

Cyngor Rhondda Cynon Taf fu'n trefnu Gŵyl Goffa Rhondda Cynon Taf, ar y cyd â'r Lleng Brydeinig Frenhinol. Ymhlith y perfformwyr roedd Band Catrodol y Cymry Brenhinol, gyda'u Cyfarwyddwr Cerdd, yr Uwchgapten Denis Burton, Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig John Asquith oedd yn Feistr y Seremonïau. 

Bydd Band Catrodol y Cymry Brenhinol yn teithio tramor yn helaeth, ac mewn tatŵau milwrol gartref a thramor. Maent yn ffefrynnau yn ystod gemau rygbi yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd hefyd. 

Roedd eu dewis o gerddoriaeth yng Nghyngerdd yr Ŵyl Goffa yn cynnwys 'Ffanffêr ar gyfer Gŵyl', '49th Parallel', ac 'Ymdeithgan y Gatrawd'. 

Yn perfformio hefyd ar y noson roedd côr meibion Urker Zangers, o'r Iseldiroedd. Cafodd hwn ei sefydlu ym 1968, ac mae'n dathlu'i benblwydd yn 40 oed. Cyflwynodd y côr raglen gymysg, oedd yn cynnwys perfformio ar y cyd â Band Catrodol y Cymry Brenhinol. 

Yn rhan o'r rhaglen roedd gwahoddiad i'r gynulleidfa uno â'i gilydd i ganu caneuon y dyddiau a fu. 

Bydd yr holl enillion ac elw o'r noson yn mynd at Apêl Pabi'r Lleng Brydeinig 

"Bob blwyddyn," meddai'r Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf "bydd Cyngerdd yr Ŵyl Goffa yn fodd i breswylwyr Rhondda Cynon Taf gael cyfle i ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, ac i'r Lleng Brydeinig Frenhinol. 

“Bob blwyddyn, byddwn ni'n gwisgo ein pabïod â balchder, yn arwydd o barch ac er mwyn mynegi diolch i'r rheiny sy'n gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog ar hyn o bryd, gartref a thramor, neu sydd wedi gwneud yn y gorffennol. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n anrhydeddu'r rheiny a syrthiodd yn y ddau Ryfel Byd ac yn yr holl ryfeloedd a ddaeth wedyn.

"Bu pob un o'r rhain, yn ddynion a menywod, a wasanaethodd yn amlygu dewrder, balchder, penderfyniad, ac anhunanoldeb rhyfeddol, yn ogystal ag ymrwymiad aruthrol at ddyletswydd a balchder yn eu gwlad. 

"Roedd lawer heb ddychwelyd adref i Gymru ac i'r rhai a garent: rhoesant eu bywydau drosom ni heddiw." 

Cafodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei ffurfio ym 1921, drwy uno pedwar o gyrff cenedlaethol oedd yn cynnwys cyn aelodau o'r lluoedd arfog a gafodd eu sefydlu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Caiff Apêl y Pabi, sy'n darparu gwasanaeth cymorth a chefnogaeth werthfawr i'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, ei lansio ym mis Tachwedd 1921. 

Cynhelir Gwasanaethau Coffa ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf ar ddydd Sul, 12fed Tachwedd. Bydd gorchmynion cau ffyrdd dros dro mewn mannau er  mwyn hwyluso'r gwasanaethau.

Wedi ei bostio ar 07/11/17