Skip to main content

Cymorth ychwanegol er mwyn i grwpiau gwirfoddol agor pyllau padlo

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi addo rhoi cefnogaeth er mwyn i grwpiau gwirfoddol agor pyllau padlo lleol yr haf nesaf.

Mae menter RhCT Gyda'n Gilydd yn cynnwys dull allweddol sy'n canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau a'r sector gwirfoddol er mwyn ystyried opsiynau posibl eraill ar gyfer cynnal gwasanaethau a chyfleusterau yn y dyfodol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi rhoi help llaw er mwyn i nifer o grwpiau cymunedol gwblhau gweithdrefnau angenrheidiol er mwyn agor pyllau padlo.

Mae'r Cyngor yn deall bod angen gwneud llawer o waith i reoli a chynnal a chadw'r cyfleusterau. Bydd ef, felly, yn rhoi £5,000 i bob grŵp gwirfoddol – yn gymorth iddyn nhw agor eu pyllau padlo yn ystod haf 2018.

Bydd y cymorth ychwanegol yma'n cynnwys talu am achubwr bywydau, cymorth goruchwylio, gwaith rheoli dŵr, asesiad risg ac arolwg amodau. Cytunodd y Cyngor ar y grant (£5,000) yn seiliedig ar oriau agor y pŵl padlo (8 awr y diwrnod am 4 wythnos).

Cafodd y sawl a aeth i'r Achlysur Pwll Padlo ddydd Mawrth, 14 Tachwedd, wybod am y cymorth ychwanegol a gaiff ei roi yn 2018. Cafodd yr achlysur ei drefnu i roi'r wybodaeth angenrheidiol i grwpiau am sut i agor pwll padlo a sicrhau ei fod yn llwyddiant. Mae'r wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth am gynigion o ran cyllid, a threfniadau prydlesu/trwyddedu yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Llesiant: "O ganlyniad i'r newyddion yma ynglŷn â'r cymorth ychwanegol ar gyfer 2018, mae Cyngor wedi cryfhau'i ymroddiad i helpu grwpiau lleol i agor pyllau padlo ledled Rhondda Cynon Taf.

“Mae menter RhCT Gyda'n Gilydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol mewn sawl maes ers iddi gael ei chyflwyno. Dyma fenter sy'n dod o hyd i ffyrdd newydd o gyflwyno gwasanaethau lleol, ar gyfer ein dyfodol. Mae pyllau padlo yn dyst i hyn.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae sawl cyfleuster wedi ailagor yn ystod yr haf, er mwyn i gymunedau lleol eu mwynhau.

"Mae'r Cyngor yn deall pa mor anodd yw hi i lynu wrth yr holl ofynion a rheoliadau. O ganlyniad i hyn, mae ef wedi dewis cynnig cymorth ychwanegol i grwpiau gwirfoddol."

Wedi ei bostio ar 15/11/2017