Skip to main content

Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan

Ar ôl llwyddiant ysgubol y llynedd, bydd Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru, yn agor unwaith eto ar 26 Rhagfyr ar gyfer ei sesiwn nofio Gŵyl San Steffan flynyddol. 

Bydd modd cadw lle ar-lein o ddydd Llun, 4 Rhagfyr. 

Bydd sesiynau'n rhedeg o 8.30am, gyda lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Pris mynediad yw £2.50 (Plant), £4.00 (Oedolion), fydd yn cynnwys diod boeth a thoesen Nadoligaidd. 

Yn ogystal â chadw lle ar-lein, bydd modd i'r cyhoedd gadw lle ar sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan yn bersonol yn Nerbynfa Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru, o ddydd Llun, 4 Rhagfyr. Bydd y lleoedd yma hefyd ar sail y cyntaf i'r felin. 

Nodwch: Fydd ddim modd cadw lle dros y ffôn 

Aeth dros 500 o bobl i atyniad nofio awyr agored poblogaidd y Cyngor ar Ŵyl San Steffan er mwyn mwynhau sesiwn nofio awyr agored yn y pyllau cynnes llynedd. 

Dyma fydd y cyfle olaf eleni i nofio yn atyniad teuluol i dwristiaid y Cyngor, sydd wedi croesawu mwy na 170,000 o ymwelwyr ers ei agor ym mis Awst 2015. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, ac sydd â chyfrifoldeb am atyniadau i ymwelwyr: "Mae Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru yn agor ar gyfer sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan eleni ar ôl tymor llwyddiannus arall yn ystod yr haf. 

"Mae modd cadw lle o 4 Ragfyr, ac mae lleoedd yn siwr o lenwi'n gyflym. Cadwch le'n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi. 

"Dathlwch ŵyl y Nadolig drwy nofio yn yr awyr agored. Mae'n weithgaredd hwyl. Does dim awyrgylch tebyg i'r sesiwn nofio Gŵyl San Steffan yn Lido Cenedlaethol Cymru." 

Hoffech chi'r newyddion diweddaraf am y Lido? Croeso i chi fynd i www.lidoponty.co.uk. Cofiwch am dudalennau Facebook a Thrydar Lido Ponty hefyd. 

  • Bydd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn agor ar gyfer sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan ddydd Mawrth, 26 Rhagfyr, a fydd yn cynnwys diod gynnes a thoesen Nadoligaidd. Bydd sesiynau'n rhedeg o 8.30am, gyda lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Wedi ei bostio ar 07/11/17