Skip to main content

Cais am statws Cae Canmlwyddiant i Barc Coffa Ynysangharad

Mae'r Cabinet wedi cytuno i symud ymlaen â chynlluniau i gyflwyno Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd fel Cae Canmlwyddiant, yn rhan o fenter ledled y wlad gan elusen Caeau Mewn Ymddiriedolaeth/Fields in Trust.

Roedd adroddiad o flaen y Cabinet ar 21ain Tachwedd yn argymell y dylai'r Cabinet gyflwyno cais i’r mewn perthynas â pharc cyhoeddus Pontypridd. Byddai statws Cae Canmlwyddiant yn ailddatgan cyflwyniad y Parc fel cofeb ryfel, ac yn nodi ymhellach yr aberth a wnaed gan y rheiny a fu'n ymladd mewn rhyfeloedd a cholli eu bywydau.

Byddai'r statws newydd yn hyrwyddo Parc Ynysangharad ymhellach. Dyma gartref Lido Cenedlaethol Cymru, dafliad carreg o ganol tref Pontypridd, yn cynnig bywiog i ymwelwyr gyda'r pwyslais ar dreftadaeth a diwylliant. Yn ogystal â hynny, byddai'n cadarnhau ymrwymiad y Cyngor i gydnabod a gwerthfawrogi'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, drwy'n hadduned i Gyfamod y Lluoedd Arfog.

Elusen genedlaethol yw Caeau Mewn Ymddiriedolaeth, wedi'i sefydlu er mwyn diogelu mannau hamdden. Yr elusen a lansiodd fenter Caeau Canmlwyddiant yn 2014 i gyd-fynd â chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Nod y fenter yw cyflwyno un man gwyrdd yn ardal pob Awdurdod Lleol yn Ynys Prydain a Gogledd Iwerddon.

Mae'r fenter yn gweithio ochr yn ochr â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, gyda'r nod o greu cynhysgaeth leol i'w gwerthfawrogi gan gymunedau am genedlaethau i ddod.

Roedd Pwyllgor Cabinet Parc Coffa Ynysangharad eisoes wedi cytuno i gyflwyno cais am statws Cae Canmlwyddiant cyn hynny. Yn ogystal â hyn i gyd, fe benderfynodd Cabinet y Cyngor, ar ôl ystyried y fater yn eu cyfarfod ar 21ain Tachwedd, gyflwyno'r cais i elusen Caeau Mewn Ymddiriedolaeth.

Cyflwynodd y Cabinet i roi ystyriaeth i bennu safleoedd addas eraill hefyd yn Rhondda Cynon Taf, i'w cyflwyno fel Caeau Canmlwyddiant.

"Parc Coffa Ynysangharad yw'r tlws yng nghoron Pontypridd a Rhondda Cynon Taf," meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant, a Lles Cyngor Rhondda Cynon Taf "Dyma ganolbwynt Rhondda Cynon Taf wrth i ni fyfyrio ar yr aberth a wnaed gan y rheiny a fu'n ymladd mewn gwrthdaro a cholli eu bywydau.

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i cydnabod gwasanaethau ein milwyr, yn ddynion a menywod, ddoe a heddiw, drwy'n hadduned i Gyfamod y Lluoedd Arfog. Mae gwneud cais am statws Cae Canmlwyddiant yn gydnaws â'r agwedd yma.

“Byddai statws Cae Canmlwyddiant yn nodi ymhellach yr aberth a wnaed gan y rheiny fu'n ymladd mewn rhyfel, a'r un pryd yn codi proffil Parc Ynysangharad fel parc cofeb ryfel. Byddai cydnabod o'r newydd fel hyn o gymorth i hyrwyddo'r Parc ymhellach fel cyrchfan i dwristiaid diwylliannol.”

Wedi ei bostio ar 23/11/2017