Skip to main content

Mae'r Nadolig yn agosáu

Mae miloedd o bobl wedi mwynhau dathliadau'r Nadolig ar draws Rhondda Cynon Taf wrth i'r Cyngor sicrhau bod hwyl yr Ŵyl yn cael ei ddathlu eleni gyda buddsoddiad ym mhob un o'i drefi. 

Rhoddodd y Cyngor £75,000 i ariannu achlysuron Nadolig yn Aberdâr, Aberpennar, Y Porth, Tonypandy, Treorci, Glynrhedynog a Llantrisant. Bydd pob canol tref yn cael arian ar gyfer coeden a goleuadau Nadolig. 

Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud cyfraniad ariannol tuag at gefnogi achlysur Nadolig canol tref Pontypridd, coeden a goleuadau Nadolig, sydd wedi'u trefnu gan Gyngor Tref Pontypridd. 

Cafodd yr achlysuron eu cynnal, ac mae'r lluniau i'w gweld isod: 

 

Pontypridd

Tonypandy 

Y Porth

Aberpennar

Llantrisant

Aberdâr

Treorci

Glynrhedynog

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Trwy siarad â masnachwyr canol ein trefi dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i'n gwybod pa mor bwysig mae cyfnod y Nadolig iddyn nhw. Dyma'r rheswm mae'r Cyngor yn estyn y gefnogaeth drwy ddarparu arian ar gyfer coed a goleuadau Nadolig ac amrywiaeth o achlysuron Nadolig yn ein trefi ledled y Fwrdeistref Sirol. 

“Daeth miloedd o bobl i ganol ein trefi y llynedd, gan roi hwb i'n heconomi lleol a chyfle i ddangos yr hyn sydd gan ein trefi i'w gynnig. 

“Aethon ni ymhellach eleni, gydag achlysuron Nadolig wedi'u trefnu yn Llantrisant a Glynrhedynog yn ogystal ag Aberdâr, Aberpennar, Y Porth, Treorci, Tonypandy a Phontypridd. 

“Roedd llwyth o atyniadau yn ein trefi, yn ogystal â chynnau goleuadau Nadolig ac ymweliad Siôn Corn. 

“Er mwyn denu rhagor o bobl i'n trefi, caiff siopwyr barcio AM DDIM yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd yn ystod mis Rhagfyr. Mae modd parcio AM DDIM trwy'r flwyddyn yng nghanol ein trefi eraill hefyd.” 

Bydd parcio am ddim ar gael ar ôl 10am ym meysydd parcio'r Cyngor yn Aberdâr a Phontypridd yn ystod mis Rhagfyr. Mae modd parcio am ddim ym meysydd parcio'r Cyngor yn Aberpennar, Tonypandy a'r Porth trwy gydol y flwyddyn. 

Wedi ei bostio ar 02/11/17